Helo ’na!

Batio dros Gymru

Batio dros Gymru

Ydych chi’n hoffi chwarae tennis bwrdd?

Ydych chi’n dda am chwarae tennis bwrdd?

 

Mae Megan ac Angharad Phillips yn dda iawn. Maen nhw’n dda iawn, iawn. Maen nhw’n chwarae tennis bwrdd dros Gymru.

Megan ac Angharad Phillips
Megan ac Angharad Phillips

Byw: Dinbych (Denbigh)

Ysgol: Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun

Nawr: Prifysgol Durham

Chwarae dros Gymru: 

  • Gemau’r Gymanwlad (Commonwealth Games), Glasgow, 2014
  • Gemau’r Gymanwlad, New Delhi, India, 2010
  • Megan – Pencampwriaeth y Byd (World Championship) yn Japan, Ffrainc a’r Almaen
  • Angharad – Pencampwriaeth Ewrop (European  Championship) yn Awstria, Gwlad Pwyl, Y Weriniaeth Tsiec a Denmarc

map.jpg (1)

Mae Megan ac Angharad yn hoffi cystadlu ond rhaid ymarfer

 

Ciwb

Ble ydych chi’n ymarfer?

Megan

Yn y ganolfan hamdden yn Ninbych neu yng Nghaerdydd.

Ciwb

Pryd ydych chi’n ymarfer?

Angharad

Rydyn ni’n ymarfer yn y bore a’r prynhawn.

Ciwb

Faint ydych chi’n ymarfer bob dydd?

Megan

Rydyn ni’n ymarfer tua dwy awr a hanner yn y bore a tua dwy awr a hanner yn y prynhawn.

meg angharad uniform.jpg

Dyma Megan ac Angharad yn gwisgo gwisg tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad (Commonwealth Games) yn Glasgow yn 2014. 

Ciwb

Ble ydych chi’n chwarae, Megan ac Angharad?

Megan

Yn yr Almaen. Rydyn ni’n mynd i’r Almaen bob mis.

Ciwb

Pam wyt ti’n hoffi cystadlu, Megan?

Megan

Wel, mae chwarae tennis bwrdd yn hwyl a dw i’n hoffi teithio.

Ciwb

Pam wyt ti’n hoffi cystadlu, Angharad?

Angharad

Dw i’n hoffi teithio hefyd - i India, Yr Almaen, China, America, Ffrainc, Sweden, Norwy, Tunisia, Rwsia, Gwlad Pwyl a mwy!!

Ciwb

Bobl bach! Beth dydych chi ddim yn hoffi am gystadlu?

Megan

Mae’n anodd mynd allan gyda ffrindiau.

Ciwb

Megan ac Angharad – pob lwc i chi.

Y ddwy

Diolch yn fawr.

 america.jpg

Megan yn America

Es i i America yn 2013  i chwarae yn yr US Open. Roedd o’n wych.

Es i i Las Vegas. Mae’r ‘strip’ yn Las Vegas yn ddiddorol iawn.

Es i weld y Grand Canyon – roedd o’n anhygoel!

 

 

india.jpg

Angharad yn India

Es i i India i chwarae tennis bwrdd yn 2010.  Roedd o’n ddiddorol iawn ond roedd o’n sioc. Gwelais i’r  ‘shantis’ ble mae rhai pobl yn byw.

Hefyd, gwelais i’r Taj Mahal. Roedd o’n anhygoel!

 

Help
Geirfa

batio dros Gymru

batting for Wales

prifysgol

university

cystadlu

to compete

ymarfer

to train

awr

hour

teithio to travel

anodd

difficult

es i

I went

roedd o’n = roedd e’n

it was

anhygoel

 amazing, awesome
 gwelais i  I saw
 rhai pobl  some people