Gwych? Diflas?

Selebs

Pwy ydy’r bobl yma?

Darllenwch.

Bethany Bethany

Mae hi’n actores ac mae hi’n dod o America.  Mae hi’n actio mewn ffilmiau, er enghraifft, Birdman, The Amazing Spider-Man a The Amazing Spider-Man 2, Gangster Squad, The Help, Crazy, Stupid Love.

Mae hi’n actio ar y teledu hefyd. Mae hi’n actio’n dda iawn.

Bethany

Sophie Sophie

Mae e’n actor. Mae e’n actio mewn ffilmiau, er enghraifft, yn ffilmiau’r Twilight Saga, Water for Elephants, Maps to the Stars, Queen of the Desert. Mae e’n actio Cedric Diggory yn y ffilm Harry Potter and the Goblet of Fire hefyd.

Mae e’n actio’n wych ac mae e’n canu’n dda iawn hefyd. Dw i’n hoffi’r actor yma’n fawr achos mae e’n dalentog iawn.

Sophie

Josh Josh

Mae’n well gen i actor o Gymru. Mae o’n actio yn The Amazing Spider-Man, Nanny McPhee Returns, Christmas Carol: The Movie, Notting Hill, Twin Town. Mae o’n actio Xenophilius Lovegood yn Harry Potter and the Deathly Hallows: Part 1 ac mae o’n wych.

Mae’r actor yma’n canu hefyd.  Mae o’n dalentog iawn – ac mae o’n siarad Cymraeg – Gwych!

Josh

Gareth Gareth

Mae fy hoff seleb i’n rhedeg. Mae e’n rhedeg dros Brydain a Lloegr mewn marathonau ac mewn rasys pum mil (5,000) metr a deg mil (10,000) metr. Mae e’n rhedeg yn ardderchog – mae e’n Bencampwr Olympaidd ac yn Bencampwr y Byd. Mae e’n dod o Somalia ond mae e’n byw yn Llundain ers yn 8 oed. Mae e’n byw yn Oregon, America hefyd. Yn fy marn i, mae e’n athletwr gwych.

Gareth

Lucy Lucy

Mae fy hoff seleb i’n rhedeg – ond mae hi’n beicio a nofio hefyd. Mae hi’n rhedeg yn ardderchog. Mae hi’n beicio’n ardderchog. Mae hi’n nofio’n ardderchog. Hi ydy Pencampwr Triathlon y Byd ac mae hi’n dod o Gymru – o Abertawe.

Yn fy marn i, mae hi’n dalentog iawn.

Lucy

Help
Geirfa
er enghraifft (e.e.) for example (e.g.)
hoffi’n fawr to like very much
mae’n well gen i / 
mae’n well gyda fi
I prefer
talentog talented
ras, rasys race, races
mil thousand
metr metre
pencampwr champion
byd world
ers since
yn fy marn i in my opinion
Abertawe Swansea

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

actress

marathons

athlete