Darllenwch a mwynhewch!

Ras Liwiau

Edrychwch ar y rasys yma. Beth sy’n digwydd?

sack.jpg
spoon.jpg
running.jpg

 

Nawr, edrychwch ar y ras yma. Beth sy’n digwydd?

Beth sy’n digwydd?

Mae pobl yn dod i redeg yn y ras ac maen nhw’n gwisgo crys T gwyn, siorts gwyn a sanau gwyn.
Mae pobl eraill yn sefyll ar hyd y cwrs. Maen nhw eisiau gwylio’r ras. Nhw ydy’r gwylwyr.

Ar ddechrau’r ras …

… mae’r rhedwyr yn sefyll mewn llinell – yn barod i redeg.
Yna, tri … dau … un … ac maen nhw’n rhedeg. 

Y ras

Mae’r rhedwyr yn rhedeg am 5 cilomedr.
Mae gwylwyr yn aros am y rhedwyr.

Ar ôl rhedeg un cilomedr …

… mae’r gwylwyr yn taflu paent powdr melyn dros y rhedwyr.

colrun1.jpg colrun2.jpg

Ar ôl rhedeg dau gilomedr …

… mae’r gwylwyr yn taflu paent powdr glas dros y rhedwyr.

Ar ôl rhedeg tri cilomedr …

… mae’r gwylwyr yn taflu paent powdr gwyrdd dros y rhedwyr.

Ar ôl rhedeg pedwar cilomedr …

… mae’r gwylwyr yn taflu paent powdr pinc dros y rhedwyr.

Ar ôl rhedeg pum cilomedr …

… mae’r gwylwyr yn taflu paent powdr pob lliw dros y rhedwyr.

 

Bobl bach! Lliwgar iawn!

colrun3.jpg

Help
Geirfa
lliwiau colours
digwydd to happen
ar hyd  along
cwrs course
llinell line
gwylio to watch
gwylwyr viewers
aros am to wait for
taflu to throw
pob lliw every colour
lliwgar colourful

 

 


Beth ydy’r geiriau Saesneg?

ras

rasys

rasio

paent powdr

[macroErrorLoadingPartialView]