Darllenwch a mwynhewch!

Tîm pêl-droed yr ysgol

Mae’r gerdd yma’n sôn am dîm pêl-droed gwahanol iawn. 

Darllenwch y gerdd a ffeindiwch 10 o bethau rhyfedd am y tîm. Mae’r atebion yn Tasg 1.

 

Tîm pêl-droed yr ysgol

 

Mae tîm pêl droed yr ysgol

   yn dîm twp iawn, mae’n wir

pob un mewn siwmper gynnes,

   pob un mewn trowsus hir,

pob un yn gwisgo sandals

   neu, weithiau, dwy fflip-fflop

pob un yn gwisgo capan

   â bobble ar y top.

 

Mae deg o fechgyn heini

   yn chwarae yn y tîm.

Mae Joshua ac Alfred

   ac Idris a Yassim.

Mohammed ac Andrea

   a Capten Marc a Cai.

Mae Colin yn y canol

   a’r goli ydy Dai.

 

Mae Josh yn dda am gicio

   a driblo’r bêl fach lwyd.

Mae Dai yn wych am daflu

   y bêl i mewn i’r rhwyd.

Mae Cai yn grêt am gario

   y bêl ar draws y parc,

cyn taflu’r bêl i Idris

   i’w phasio ’mlaen i Marc.

 

Mae tîm pêl-droed yr ysgol

   yn dîm gwahanol iawn,

yn chwarae yn y bore

   a chysgu drwy’r prynhawn.

Ryw ddydd, fe fydd y bechgyn

   mewn gwisgoedd smart i gyd

yn chwarae gyda’i gilydd

   yn nhwrnamaint y byd.

 

Non ap Emlyn

 

Help
Geirfa
cerdd poem
gwahanol different
pethau things
rhyfedd strange
twp silly
mae’n wir indeed
pob un each one
cynnes warm
hir long
weithiau sometimes
capan cap
canol centre
taflu to throw
rhwyd net
ar draws across
’mlaen forwards
ryw ddydd some day
fe fydd = mi fydd will
i gyd all
gyda’i gilydd together
twrnamaint tournament

 

 

 


Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

sandals

to dribble