Darllenwch a mwynhewch!

Wrth y bwrdd

Sut mae bwyta’n gwrtais wrth y bwrdd?

world-map2.jpg

1. Cymru

Bwytwch yn dawel a bwytwch bopeth ar y plât.

2. Mexico

Defnyddiwch y gyllell yn y llaw dde a’r fforc yn y llaw chwith. Peidiwch defnyddio’r gyllell yn y llaw chwith a’r fforc yn y llaw dde.

3.Norwy

Defnyddiwch gyllell a fforc i fwyta popeth – brechdanau hefyd.
sandwich.jpg

4. Ffrainc

Peidiwch defnyddio cyllell i dorri’r bara ar eich plât chi. Torrwch y bara yn eich dwylo chi.
french.jpg

5. Portiwgal 

Peidiwch gofyn am bupur a halen. Mae’n anghwrtais achos mae’n dweud, “Dydy’r bwyd ddim yn flasus.”

6. Yr Aifft 

Peidiwch bwyta popeth ar y plât. Mae bwyta popeth yn dweud, “Dw i eisiau mwy os gwelwch yn dda.”

7. Twrci

Mae torri gwynt ar ôl bwyta yn gwrtais – mae’n dweud, “Dw i wedi mwynhau’r bwyd, diolch yn fawr.”

8. India

Golchwch eich dwylo a’ch ceg chi cyn bwyta. Defnyddiwch eich llaw dde i fwyta – dim y llaw chwith achos mae’r llaw chwith yn frwnt neu’n fudr. Llyfwch eich bysedd i ddangos, “Dw i wedi mwynhau’r bwyd.”

indian-family.jpg

9. Gwlad Thai

Peidiwch defnyddio’r fforc i roi'r bwyd yn eich ceg chi. Defnyddiwch y fforc i roi’r bwyd ar y llwy a rhowch y llwy yn eich ceg chi.

10. China

Mae torri gwynt ar ôl bwyta yn gwrtais – mae’n dweud, “Dw i wedi mwynhau’r bwyd.” Peidiwch rhoi chopsticks i sefyll yn y bowlen.
chopsticks.jpg
Ffotograff gan Charles Dyer wedi'i drwyddedu o dan CC BY

11. Japan

Bwytwch bopeth ar y plat. Mae’n dweud, “Dw i wedi mwynhau’r bwyd.” Gwnewch sŵn slurp pan rydych chi’n bwyta sŵp neu nwdls. Mae’n dweud, “Dw i’n mwynhau’r bwyd.”

 

Help
Geirfa
cwrtais polite
popeth everything
cyllell knife
llaw hand
defnyddio to use
pupur a halen pepper and salt
anghwrtais impolite
dweud to say 
torri gwynt to burp, belch
cyn before
llyfu to lick
llwy spoon

 


Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

 fork

Norway

France