Edrych yn ôl

Beth wnest ti?

Amgueddfa Llanaber
AmgueddfaLlanaber.com
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Lluniau
  • Cwestiynau a Cysylltu â ni

Amgueddfa Llanaber

 

Dros y penwythnos … ond … pa flwyddyn?

 

Darllenwch am y bobl yma. Pryd oedd y bobl yma’n byw? Beth ydy’r flwyddyn?

Andrew Andrew

Es i i’r siop ddillad i brynu trowsus newydd ond roedd problem – doedd dim trowsus newydd yn y siop!

Bronwen Bronwen

Nos Sadwrn, eisteddais i yn yr ystafell fyw, yn gwrando ar y radio gyda’r teulu.

Pamela Pamela

Dawnsiais i yn Neuadd y Dre nos Sadwrn. Roedd y gerddoriaeth yn wych. Noson dda!

Gwen Gwen

Es i i siopa fore Sadwrn. Es i i’r siop fwyd i brynu jam; es i i’r siop fara i brynu bara (bara brown eto! Dw i ddim yn hoffi bara brown.) Yna, es i i’r siop ffrwythau i brynu ffrwythau – dim bananas, dim orennau – dim ond afalau.  Prynais i ddau afal.

Ann Ann

Yn y prynhawn, cerddais i ar lan y môr gyda Mildred – mae hi’n dod o Birmingham. Siaradon ni.

Hywel Hywel

Yn y bore, helpais i Mam yn yr ardd. Roedd e’n hwyl achos dw i’n mwynhau garddio. Dw i’n mwynhau bwyta bwyd o’r ardd hefyd!

Yn y prynhawn, chwaraeais i bêl-droed gyda George a Peter – y faciwîs. Roedd e’n wych!

Yna, es i i weld Tad-cu a Mam-gu. Ces i swper gyda nhw – wy ar dost.

Diwrnod da!

Jac Jac

Es i i’r dref gyda fy ffrindiau. Aethon ni i’r ‘pictiwrs’ i weld cartwnau. Yna, aethon ni i dŷ John i wrando ar recordiau.

Pryd oedd y bobl yma’n byw? Dewiswch un flwyddyn.

 

Dates.jpg

Help
Geirfa

amgueddfa

museum

pa flwyddyn?

what year?

doedd dim

there were no

ystafell fyw

living room

Neuadd y Dre

the Town Hall

dim ond

only

glan y môr seaside

siaradon ni

we talked

faciwîs

evacuees

 tad-cu

grandfather

 mam-gu

grandmother

 aethon ni

we went


Beth ydy’r geiriau Saesneg?

tost

bara brown

orennau

cartwnau

[macroErrorLoadingPartialView]