Edrych yn ôl

Noson anhygoel

22 Awst, 2015

Nos Sadwrn, 11.30 y nos

Noson anhygoel!

Es i i barti yn y castell gyda Liam, Kitty, David ac Ifan – parti pen-blwydd Sofia.

Roedd y parti’n grêt. Roedd llawer o fwyd blasus yno ac roedd y gerddoriaeth yn wych. Roedd pawb yn cael amser gwych. Bwyton ni fwyd parti; dawnsion ni; siaradon ni; chwaraeon ni gêm. Yna, ar ôl chwarae’r gêm, dwedodd Liam, “Beth am fynd i chwilio am ysbrydion?”

Beth?!?!?! Chwilio am ysbrydion? Bobl bach! Mawredd mawr! Nefi wen! YSBRYDION!?!?!

Wel, roedd pawb (ond fi!) eisiau mynd ac felly aethon ni i lawr i’r seler. Roedd hi’n dywyll iawn yno. Felly, defnyddion ni ein ffonau i roi golau i ni.

Cerddon ni’n dawel drwy’r seler. Roedd hi’n sbŵci iawn. Roedd hi’n oer iawn hefyd. Ych a fi! Roedd y seler yn dawel iawn ond, yn sydyn, dwedodd David, “Shh, dw i’n gallu clywed sŵn!”

Stopion ni. “Diffoddwch y ffonau,” dwedodd Liam. Diffoddon ni’r ffonau ac arhoson ni’n dawel yn y seler heb siw na miw. O, roedd hi’n oer iawn nawr – ac roedd hi’n dywyll iawn hefyd. Roedd hi mor dawel â’r bedd.

Yn sydyn, clywon ni sŵn cerdded yn y seler ac yna teimlais i law oer ar fy llaw i. “Paid!” dwedais i wrth Liam. (Roeddwn i’n meddwl bod Liam yn chwarae tric!)

“Paid!” gweiddodd Kitty. “Stopia, Liam … stopia.” Goleuon ni’r ffonau … doedd Liam ddim yno.

“Ble mae Liam?” gofynnodd Kitty ac yna roedd sŵn ofnadwy. Rhedon ni nerth ein traed o’r seler … i fyny’r grisiau ac yn ôl i’r parti.  Ond doedd Liam ddim yno. 

Ble mae Liam nawr?

Idiomau

heb siw na miw                 without a sound

mor dawel â’r bedd          as quiet as the grave

nerth ein traed                  as fast as our feet would carry us

Help
Geirfa

anhygoel

incredible, awesome

ysbryd, ysbrydion

ghost, ghosts

felly

so

tywyll

dark

defnyddio

to use

golau light

yn dawel

quietly

diffodd

to switch off

teimlo

to feel

llaw

 hand
 goleuo  to light

[macroErrorLoadingPartialView]