Edrych yn ôl

Pwy wnaeth e?

Y Parti

home-party.jpg

 

Nos Sadwrn, roedd parti mawr yn y Tŷ Mawr, cartref Mr Joshua Holmes, achos roedd parti pen-blwydd Alice, merch Joshua.

Roedd llawer o bobl yno ac roedden nhw’n cael amser gwych. Roedd llawer o fwyd … llawer o ddiod … llawer o hwyl. Roedd band gwych yn chwarae ac roedd pawb yn dawnsio.

Am hanner awr wedi naw, aeth Alice Holmes allan o’r parti achos roedd hi’n teimlo’n sâl.

Am chwarter i ddeg, aeth Sam Wilkins, cariad Alice, allan o’r parti i chwilio am Alice.

Am ddeg munud i ddeg, aeth Mrs Belinda Holmes, gwraig Mr Joshua Holmes, allan i chwilio am Mr Holmes achos doedd e ddim yn y parti.

Am ddeg munud wedi deg, aeth Joseph Holmes allan o’r parti achos roedd e eisiau coffi.

Am chwarter wedi deg, aeth Catrin Price, ffrind Mr Joshua Holmes, brawd Mr Joshua Holmes, allan i’r tŷ bach … ac yna sgrechiodd hi … a sgrechiodd hi … a sgrechiodd hi. Rhedodd pawb i weld beth oedd y broblem.

Roedd drws y tŷ bach ar agor … roedd Catrin yn sefyll tu allan i’r tŷ bach yn sgrechian achos roedd Joshua Holmes yn gorwedd ar y llawr. Roedd e wedi marw.

 

Tybed ...

Pwy wnaeth e?

Sut?

Pam?

Help
Geirfa
cartref home
llawer o lots of
teimlo’n sâl to feel ill
chwilio am to look for
sgrechian to scream
sefyll to stand
gorwedd to lie
llawr floor
wedi marw dead
tybed I wonder

%MCEPASTEBIN%