Disgrifio

Beth sy yn y bocs?

Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.

Help

 

Geirfa
dyfalu to guess
arbenigwr expert
coes leg
braich arm
llygad eye
clust ear
yr Almaen Germany

hen bethau

antiques

y peth yma

this thing

we web
gwerth value
brwnt dirty
budr dirty
drewi to stink

Loading the player...
Casi:

Noswaith dda. Croeso i raglen newydd ar y teledu – BETH sy yn y bocs? 

Yn y rhaglen yma, rhaid dyfalu beth sy yn y bocs … ac yna bydd arbenigwr yn siarad am y peth. 

Casi Davies ydw i ond pwy ydy’r arbenigwr heno?

Casi:

Wel, dyma’r arbenigwr heno, Mr Peregrine Pryce.

Croeso, Mr Pryce.

PP:

Diolch.

Casi:

Pwy sy’n mynd i ofyn … BETH sy yn y bocs?

Wel …

Casi:

Rhowch groeso i Mrs Annie Jones.

Croeso i chi, Annie.

Annie:

Diolch.

Casi:

Yn gyntaf … pwy ydych chi, Annie?

Annie:

Wel, dw i’n byw yn Llanelli a dw i’n gweithio mewn siop.

Casi:

Diolch, Annie. Pwy arall sy’n mynd i ofyn …. BETH sy yn y bocs?

Wel … Dyma Carwyn Claude Crawford …

Rhowch groeso i Carwyn Claude Crawford.

CCC:

Diolch … Diolch … Diolch i chi. Diolch yn fawr iawn.

Casi:

Pwy ydych chi, Carwyn?

CCC:

Carwyn Claude Crawford ydw i a dw i’n byw yn Aberystwyth ... Dw i’n hoffi byw yn Aberystwyth – mae’n wych.

Dw i’n hoff iawn o rygbi … Dw i’n hoffi rygbi yn fawr iawn ... Mae rygbi’n wych … yn hwyl … yn ffantastig … yn fendigedig. Dw i wrth fy modd yn gwylio rygbi … a dw i wrth fy modd yn coginio hefyd. Dw i’n hoffi chwilio am drysor hefyd a …

Casi:

Hm hm.

CCC:

O, mmm, iawn …

Casi:

Reit – beth am chwarae’r gêm?

Annie:

Syniad da.

Casi:

Iawn … Annie … dechreuwch chi.

Annie:

Diolch.

Annie:

BETH sy yn y bocs, Carwyn?

CCC:

Llyfr?

Annie:

Arhoswch, Carwyn. Mae Annie’n mynd i roi cliwiau i chi.

CCC:

O … cliwiau … gwych!

Annie:

Iawn, Carwyn … BETH sy yn y bocs?

Annie:

Un. Mae e’n frown.

CCC:

Esgid?

Casi:

Arhoswch, Carwyn. Mae Annie yn mynd i roi PUM cliw i chi.

CCC:

PUM cliw?!?!? O, gwych.

Annie:

Iawn, Carwyn … BETH sy yn y bocs?

Un: Mae e’n frown.

Dau: mae dwy goes gyda fe.

Tri: mae dwy fraich gyda fe.

Pedwar: Mae dau lygad gyda fe.

Pump: Mae un glust gyda fe.

CCC:

Eh?!?!? O, Mae’n ddrwg gen i – PARDWN!

Casi:

Felly, dyma’r cliwiau, Carwyn.

Un: Mae o’n frown.

Dau: mae ganddo fo ddwy goes.

Tri: mae ganddo fo ddwy fraich.

Pedwar: Mae ganddo fo ddau lygad.

Pump: Mae ganddo fo un glust.

Felly, Carwyn – BETH sy yn y bocs?

CCC:

Mmm – BETH sy yn y bocs?

Casi:

Wel, Carwyn, BETH sy yn y bocs?

CCC:

Dw i ddim yn gwybod. Ci bach?

Casi:

Ci bach – gydag un glust?!?!?

CCC:

Wel ...

Casi:

Annie, BETH sy yn y bocs?

Annie:

Tedi bêr.

CCC:

O, wrth gwrs … ! Tedi bêr.

Casi:

Da iawn, Annie. Dim pwyntiau i chi, Carwyn – ond pum pwynt i Annie.

CCC:

Ond ...

Casi:

Rŵan – beth ydy barn yr arbenigwr?

PP:

Mae’r tedi bêr yma’n hen iawn. Mae e’n hyfryd. Edrychwch, mae’r breichiau’n symud. Mae’r coesau’n symud - ond dydy’r pen ddim yn symud.

Mae’r tedi bêr yn dod o’r Almaen.

Annie:

Bobl bach, mae’r tedi bêr yn dod o’r Almaen!

Annie:

Gwelais i’r tedi bêr mewn siop hen bethau ac felly, es i i mewn ac yna prynais i fe.

PP:

O, faint oedd e?

Annie:

Talais i wyth punt.

PP:

Faint?

Annie:

Talais i wyth punt.

PP:

Pryd?

Annie:

Yn un naw naw naw.

PP:

Bobl bach! Heddiw, mae’r tedi bêr yma’n werth saith deg punt.

Annie:

Faint?

PP:

Saith deg punt.

Annie:

Waw - gwych! ANHYGOEL! Diolch yn fawr.

Casi:

Rŵan, eich tro chi, Carwyn.

CCC:

Da ra! BETH sy yn y bocs? …

BETH sy yn y bocs? …

Casi:

Carwyn, rhaid i chi roi pum cliw i Annie.

CCC:

O, mmm, iawn.

Wel,

Un: Mae e’n wyn ac yn goch.

Dau: Dw i’n gwisgo’r peth yma i wylio rygbi.

Tri: Gwisgais i’r peth yma yn y gêm rhwng Cymru a Ffrainc.

Pedwar: Prynais i’r peth yma ar y we.

Pump: Talais i wyth punt naw deg naw am y peth yma – bargen!

Casi:

Diolch, Carwyn.

Iawn, Annie, dyma’r cliwiau i chi.

Un: Mae o’n wyn ac yn goch.

Dau: Mae Carwyn yn gwisgo’r peth yma i wylio rygbi.

Tri: Gwisgodd Carwyn y peth yma yn y gêm rhwng Cymru a Ffrainc.

Pedwar: Prynodd Carwyn y peth yma ar y we.

Pump: Talodd Carwyn wyth punt naw deg naw am y peth yma.

Felly, Annie - BETH sy yn y bocs?

Casi:

Wel, Annie, BETH sy yn y bocs?

Annie:

Mmm … sgarff rygbi?

Carwyn, BETH sy yn y bocs?

CCC:

Sgarff rygbi! Da ra.

Casi:

Da iawn, Annie. Pum pwynt arall i chi – ond dim pwyntiau i Carwyn.

CCC:

OND ...

Casi:

Rŵan – beth ydy barn yr arbenigwr?

PP:

Mmm – diolch yn fawr. Ych a fi!

CCC:

Ych a fi???

PP:

Iawn … sgarff goch a gwyn … mmm – sgarff rygbi goch a gwyn.

CCC:

Prynais i’r sgarff ar y we.

PP:

O, faint daloch chi am y sgarff?

CCC:

Wyth punt naw deg naw.

PP:

Faint?

CCC:

Wyth punt naw deg naw.

PP:

Pryd?

CCC:

O, dw i ddim yn siŵr, yn un naw naw naw efallai. 

Faint ydy gwerth y sgarff heddiw?

PP:

Dwy geiniog.

CCC:

Dwy geiniog?!?!?!?

PP:

Mr Crawford …

CCC:

Claude …

PP:

Claude, mae’r sgarff yn frwnt – yn fudr – mae’r sgarff yn drewi. Mae’r sgarff yn ofnadwy.

CCC:

Ond ...

Casi:

Wel, dyna ddiwedd y rhaglen.

Cofiwch – wythnos i heno, am wyth o’r gloch, rhaglen arall o BETH sy yn y bocs – Hwyl fawr!