Dylech chi ...

Nos da!

Nos da!

Mae cysgu’n dda bob nos yn bwysig achos:

  • mae’n help i deimlo’n dda
  • mae’n help i weithio’n dda.

Ond sut mae cysgu’n dda? Dyma rai syniadau:

 no-food.jpg  

Dim bwyta ar ôl 8 o’r gloch y nos.

 no-drinks.jpg  

Dim yfed gormod cyn mynd i’r gwely.

 no-coffee.jpg  

Dim yfed diod gyda caffîn cyn mynd i’r gwely.

 no-tv.jpg  

Dim edrych ar raglenni cyffrous ar y teledu neu’r cyfrifiadur cyn mynd i’r gwely.

 no-tablet.jpg  

Dim chwarae gemau cyffrous ar y tabled yn y gwely.

 

Hefyd:

 no-loud-tv.jpg (2)  

Rhaid cael ystafell dawel – dim sŵn.

 do-ex.jpg  

Gwnewch ymarfer corff yn y dydd.

 do-book.jpg  

Ymlaciwch – darllenwch yn y gwely os ydych chi eisiau.

 do-clock.jpg  

Ewch i’r gwely yr un amser bob nos.

 do-book-music-01.jpg (1)
 clock_no-01-01.jpg (1)

Os dydych chi ddim yn gallu cysgu mewn tri deg (30) munud – darllenwch (dim llyfr cyffrous!) neu gwrandewch ar gerddoriaeth dawel. Peidiwch edrych ar y cloc eto ... ac eto ... ac eto ... neu byddwch chi’n teimlo o dan straen.

 

Nos da!

Help
Geirfa
pwysig important
teimlo to feel
syniadau ideas
ar ôl after
cyn before
gormod too much
diod drink
tawel quiet 
ymarfer corff physical exercise
ymlacio  to relax
 yr un amser the same time
 gallu  can, to be able to
teimlo o dan straen  to feel stressed