Dylech chi ...

Problem!

Problem!
Zena:

Beth sy’n bod?

Catrin:

O, dw i’n teimlo’n sâl.

Zena:

Pam? Beth sy’n bod?

Catrin:

Edrycha ar y llun yma ar y ffôn.

Zena:

Pwy ydy hi?

Catrin:

Fi.

Zena:

Ti?

Catrin:

Ie, fi.

Zena:

Ond ...

Catrin:

Mae’r llun yn hen.

Zena:

Hen?

Catrin:

Wel, chwe mis.

Zena:

Ond rwyt ti’n edrych yn dew yn y llun yma – ac mae’r wisg nofio’n rhy fach. Mae’r llun yn ofnadwy.

Catrin:

Ydy, dw i’n gwybod.

Zena:

Rwyt ti wedi colli pwysau ers tynnu’r llun yma.

Catrin:

Ydw. Dw i wedi colli stôn.

Zena:

Ond pam mae’r llun yma ar dy ffôn di?

Catrin:

Dw i ddim yn gwybod.

Zena:

Pwy sy wedi anfon y llun?

Catrin:

Dw i ddim yn gwybod.

 

Mae grŵp o bobl ifanc yn cerdded allan o’r parti. Maen nhw’n edrych ar ffôn Josh ac maen nhw’n chwerthin. Mae Josh yn pwyntio at Catrin ac mae o’n sibrwd.

 

Josh:

Sh – bydd hi’n clywed. Mae hi’n sefyll yn y gornel gyda Zena.

 

Yna, mae Catrin yn cael tecst arall.

 

Catrin:

O na!

Zena:

Beth sy’n bod? Oes llun arall?

Catrin:

Nac oes, does dim llun arall – ond mae tecst ofnadwy yma.

Zena:

Beth mae’r tecst yn dweud?

Catrin:

Dw i ddim eisiau dweud – mae’n rhy ofnadwy.

Zena:

Pwy sy wedi anfon y tecst?

Catrin:

Dw i ddim yn gwybod.

 

Yna, mae Catrin yn cael tecst arall. Dydy hi ddim yn edrych ar y tecst yma.

 

Catrin:

Dw i’n mynd.

Zena:

Ond Catrin – y parti.

Catrin:

Na, dw i’n mynd ...

 

Mae hi’n rhedeg allan o’r ardd ac i lawr y stryd.

 

Help
Geirfa
yr ardd the garden
llun picture, photograph
gwisg nofio swimsuit
ers tynnu’r llun since the picture was taken
wedi colli have lost
wedi anfon has sent
ifanc young
sibrwd to whisper