Sut ydych chi’n teimlo?

O dan y dŵr

21 Mai, 1961

Nos Lun

Mae hi’n dawel iawn yma. Mae popeth yn barod ac yfory bydd y cart yn dod i symud ein pethau ni i gartref newydd – ond dydyn ni ddim eisiau mynd. Na – dydyn ni ddim eisiau mynd o gwbl! Dw i ddim eisiau mynd. Dydy’r plant ddim eisiau mynd a dydy pobl y pentref ddim eisiau mynd. Ond rhaid i ni fynd achos mae pobl Lerpwl eisiau dŵr!

Mae’r ysgol wedi cau. Mae swyddfa’r post wedi cau. Mae’r capel wedi cau. Mae’r ffermydd wedi cau. Mae bywyd y pentref wedi gorffen. Mae’n boenus! Mae’n rhy boenus!

Rydyn ni wedi protestio. Rydyn ni wedi bod i Lerpwl yn protestio ond dydy pobl Lerpwl ddim eisiau gwybod – achos maen nhw eisiau dŵr.

A rŵan, dyma fi yn yr ystafell fach yn pacio popeth – achos dw i’n mynd i gartref newydd yfory, ond dw i ddim eisiau mynd! Yn yr ystafell yma mae fy mhlant i wedi bwyta ... ac wedi chwarae. Dyma ble rydyn ni wedi byw fel teulu – dyddiau hapus, gwych! Ond dim mwy!

Mae’r peiriannau mawr yn gwneud sŵn ofnadwy yn mynd i fyny ac i lawr y ffordd. Dw i’n teimlo’n ofnus ac yn nerfus – ac yn drist ofnadwy achos yfory bydd y cartref yma’n gerrig ar y llawr.

Ac yna, cyn bo hir, bydd y dŵr yn dod a bydd ein pentref bach ni – ein pentref annwyl ni – o dan y dŵr – achos mae pobl Lerpwl eisiau dŵr ...

Nos da. Na, ddim “Nos da” ond “Hwyl fawr!”

Help
Geirfa
cart cart wedi bod have been
symud to move popeth everything
peth, pethau thing, things peiriant, peiriannau machine, machines
wedi cau (has) closed carreg, cerrig stone, stones
fferm, ffermydd farm, farms llawr ground
wedi gorffen has finished cyn bo hir before long, soon
poenus painful annwyl dear

 

newest.jpg
1.jpg (1)
3.jpg
image 1
image2.jpg (1)
image3.jpg
image4.jpg
image5.jpg
2.jpg (1)

 

Boddi Tryweryn: y dŵr yn codi dros yr hen B4391, Awst 1965. gan E Gammie; fe'i defnyddir o dan CC BY

Cofiwch Tryweryn; fe'i defnyddir o dan CC BY

Llyn Celyn gan Tony Edwards; fe'i defnyddir o dan CC BY

Llyn Celyn Reservoir gan Roger Brooks; fe'i defnyddir o dan CC BY