Sut ydych chi’n teimlo?

Sut ydych chi’n ymlacio?

Help
Geirfa
ymlacio to relax ar y we on the internet
os if byth never
pawb everyone Mae’n gas gyda fi ... I hate ... (South Wales)
yn brysur busy Mae’n gas gen i ... I hate ... (North Wales)
tŷ bwyta restaurant cadw’n heini to keep fit
weithiau sometimes yn gyflym quickly

 


Loading the player...
Trawsgrif
Person Sgript
Cyflwynydd: Stopiwch ...
Cyflwynydd: A – dyna ni!
Cyflwynydd: Iawn – dw i yn Llanelli heddiw ... achos dw i eisiau gofyn i bobl:

Sut ydych chi’n ymlacio?

Cyflwynydd: Esgusodwch fi ...

Iawn ...

Cyflwynydd: Esgusodwch fi ...

Iawn ...

Cyflwynydd: Esgusodwch fi ...

Iawn ...

Cyflwynydd: Bobl bach, mae pawb yn brysur.
Cyflwynydd: Esgusodwch fi. Ga i ofyn cwestiynau i chi ... ? ...

Ga i ofyn cwestiynau i chi ... ? Ga i ofyn ...

Dyn: Helo.
Cyflwynydd: Ga i ofyn cwestiynau i chi?
Dyn: O, iawn. Cewch.
Cyflwynydd: Diolch. Sut ydych chi’n ymlacio?
Dyn: Pardwn?
Cyflwynydd: Sut ydych chi’n ymlacio?
Dyn: Wel .... nawr ‘te ... Sut ydw i’n ymlacio? Wel ... Dw i’n mynd allan gyda ffrindiau ...
Cyflwynydd: Mynd allan gyda ffrindiau ... Ble?
Dyn: Wel ... i’r tŷ bwyta ... neu dw i’n mynd i dŷ ffrind – i siarad ... neu i chwarae gêm cyfrifiadur.
Cyflwynydd: I dŷ bwyta ... i dŷ ffrind. Diolch yn fawr. Iawn  ... pum cwestiwn i chi. I ymlacio ...:

Ydych chi’n gwylio’r teledu?

Dyn: Ydw. Weithiau.
Cyflwynydd: Ydych chi’n gwrando ar gerddoriaeth?
Dyn: Ydw. Weithiau.
Cyflwynydd: Ydych chi’n mynd ar y we?
Dyn: Ydw. Weithiau.
Cyflwynydd: Ydych chi’n siopa?
Dyn: Nac ydw - byth ... Byth!  ... BYTH!! Mae’n gas gyda fi siopa. Dydy siopa ddim yn helpu fi i ymlacio!
Cyflwynydd: Ydych chi’n gwneud chwaraeon?
Dyn: Ydw, achos mae’n bwysig cadw’n heini.
Cyflwynydd: Ydych chi’n dawnsio i ymlacio?
Dyn: Nac ydw.
Cyflwynydd: Iawn – felly ... i ymlacio ... rydych chi’n: 
  • mynd i dŷ ffrindiau
  • siarad gyda ffrindiau
  • chwarae gêm cyfrifiadur
  • gwylio’r teledu
Dyn: Weithiau
Cyflwynydd:
  • Weithiau ... ac rydych
  • chi’n gwneud chwaraeon.
Cyflwynydd: Dyna ni!
Dyn: Diolch yn fawr.
Diolch. Hwyl fawr.
Cyflwynydd: Esgusodwch fi.
Merch: Helo.
Cyflwynydd: Ga i ofyn cwestiwn i chi?
Merch: Cewch – yn gyflym.
Cyflwynydd: Iawn – yn gyflym. ... Sut ydych chi’n ymlacio?
Merch: Dw i’n rhedeg – hwyl fawr!
Cyflwynydd: O, iawn – hwyl fawr!