Sut ydych chi’n teimlo?

Ymlacio ar draws y byd (1)

Ymlacio ar draws y byd (1)

Ydych chi’n gweithio’n galed yn yr ysgol?

Ydych chi’n gweithio tu allan i’r ysgol?

Ydych chi’n ymarfer yn galed?

Ydych chi o dan straen weithiau?

 

Y cwestiwn pwysig ydy:

Ydych chi’n ymlacio?

 

Ymlacio

Mae llawer o bobl yn gweithio’n galed ac maen nhw’n blino. Weithiau, mae pobl o dan straen. Weithiau, maen nhw’n teimlo’n ddiflas. 

Maen nhw eisiau teimlo’n well, felly beth maen nhw’n wneud? Sut maen nhw’n ymlacio?

Mae rhai pobl yn chwarae gêm. Mae rhai pobl yn darllen. Mae rhai pobl yn gwylio ffilm. Mae rhai pobl yn gwrando ar gerddoriaeth.

 

Beth arall?

Yn Zanzibar, mae pobl yn gwrando ar gerddoriaeth taarab. Maen nhw’n mynd allan i yfed te ac i siarad â ffrindiau ac i wrando ar y gerddoriaeth yma. Mae rhai pobl yn dawnsio i’r gerddoriaeth yma.

Fel arfer, mae band yn chwarae’r gerddoriaeth ac mae’r bobl yn gallu gofyn i’r band chwarae darn arbennig os ydyn nhw eisiau.

Loading the player...