Rhifyn 12 - Edrych ’nôl

Byw ddoe

Byw ddoe

Meddyliwch – rydych chi’n byw mewn tŷ o’r 1930au a ...:

  • does dim toiled yn eich tŷ chi
  • does dim teledu yn eich tŷ chi
  • does dim cyfrifiadur yn eich tŷ chi
  • does dim gwres canolog yn eich tŷ chi
  • does dim oergell yn eich cegin chi
  • does dim peiriant golchi dillad yn eich cegin chi
  • does dim car gennych chi.

 

Dychmygwch hefyd:

 

 

Dyna sut mae Joanne Francis, o swydd Lincoln, Lloegr yn byw. Pam? Achos mae hi’n hoffi byw yn 1939.

 

Mae Joanne yn byw fel merch o’r 30au a’r 40au.

 

  • Ar ddydd Llun, mae hi’n golchi dillad mewn twb.
  • Ar ddydd Mawrth, mae hi’n smwddio.
  • Ar ddydd Gwener, mae hi’n mynd i siopa am fwyd – yn y farchnad. Mae hi’n hoffi bwyd plaen fel sosej a thatws stwnsh, pastai a thatws stwnsh.
  • Yn yr ardd, mae Anderson Shelter ac mae hi’n mynd yno weithiau yn y nos.

 

Ond mae hi’n defnyddio un peth modern – ffôn symudol.

Pa ringtone sy’n dangos bod tecst yn cyrraedd? Seiren air raid!

Geirfa
Geirfa
gwres canolog central heating
oergell fridge
peiriant golchi dillad washing machine
rhaid i chi ... you must ...
yn lle instead (of)
tân glo coal fire
cadw’n gynnes to keep warm
swydd county
smwddio to iron
y farchnad  the market
tatws stwnsh mashed potato
cyrraedd to arrive
pastai pie