Rhifyn 12 - Edrych ’nôl

Everest

Everest

Rydych chi’n mynd i wrando ar ddarn o’r rhaglen Teithio. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.

Geirfa
Geirfa
Sir Benfro Pembrokeshire
clirio to clear
gadael to leave
sbwriel rubbish
hedfan to fly
adeiladau buildings
uwchlaw above
pabell tent
offer coginio cooking equipment
tarten tart
gorllewin west
anodd difficult
gwaelod bottom, base
 cyfeillgar  friendly

Trawsgrif
Person Sgript

Cyflwynydd:

 

 

Croeso i raglen arall o Teithio.

Heddiw yn y stiwdio, rydyn ni’n siarad â dyn o Sir Benfro – Iwan Jones. Croeso i’r stiwdio, Iwan.

Iwan:  Diolch.
Cyflwynydd:  Rydych chi wedi bod ar daith arbennig. ... Ble aethoch chi?
Iwan:  Es i i fyny Everest.
Cyflwynydd:  Bobl bach – i fyny Everest! ... Pryd aethoch chi?
Iwan: Ym mis Hydref. ... Es i i fyny i Base Camp, Everest gyda grŵp o bobl i glirio’r mynydd.
Cyflwynydd: I glirio’r mynydd?
Iwan: Ie – i glirio’r mynydd.
Cyflwynydd: Ond pam?
Iwan: Mae llawer o bobl yn dringo Everest bob blwyddyn ...  ac mae rhai pobl yn gadael sbwriel yno.

Person

Sgript

Cyflwynydd:

Gadael sbwriel ... ar Fynydd Everest?!?!? ... > ? Mae hynny’n ofnadwy!
Iwan: Ydy.
Cyflwynydd: Siaradwch am y daith, Iwan.
Iwan: Wel, hedfanais i o Gatwick i Kathmandu, yn Nepal.
Cyflwynydd: O Gatwick ... i Kathmandu ...?
Iwan: Arhoson ni mewn gwesty yn Kathmandu am dair noson.
Cyflwynydd: Waw – aros yn Kathmandu – am dair noson! ... Beth wnaethoch chi yn Kathmandu?
Iwan: Es i i weld yr hen adeiladau, y Monkey Temple ... ac es i i siopa. Mae Kathmandu yn lliwgar ac yn ddiddorol – mae’n ddiddorol iawn.
Cyflwynydd: Beth brynoch chi?
Iwan: Prynais i grys T a souvenirs o Khatmandu.
Cyflwynydd: Beth wedyn?

Iwan:

 

Es i o Kathmandu i Lukla ar y bws ... ac yna cerddais i i fyny i Base Camp – dros bum mil metr uwchlaw lefel y môr. Roedd Sherpa yn cario fy rycsac i ac roedd iacs yn cario’r babell a’r offer coginio.
Cyflwynydd: Coginio? Beth fwytoch chi ar y mynydd?
Iwan: Tatws ... a sglodion ... bwyd India – cyrris ... tarten afal ... llawer o fwyd y gorllewin a bod yn onest.
Cyflwynydd: Beth yfoch chi?
Iwan: Te ... llawer o de ... a dŵr a siocled poeth.
Cyflwynydd: Ble gysgoch chi?

Iwan:

 

Ar y mynydd. Cysgais i mewn pabell. Roedd hi’n oer iawn yn y nos  ... tua minws dau ddeg gradd Celsius ... Roedd cysgu’n anodd achos roedd hi’n oer iawn.
Cyflwynydd: Siaradwch am glirio’r sbwriel ar y mynydd, Iwan.
Iwan: Roeddwn i’n gwisgo menig ac roeddwn i’n rhoi’r sbwriel mewn bagiau plastig.
Cyflwynydd: Sut oeddech chi’n teimlo?

Iwan:

 

Roeddwn i’n hapus iawn ... Roedd y mynyddoedd yn hardd – yn hardd iawn! ... Roedd y lliwiau’n wych ... roedd y mynyddoedd yn wyn ar y top ... ond yn wyrdd iawn ar y gwaelod ... ac roedd yr awyr yn las iawn. Anhygoel!
Cyflwynydd: Beth am y bobl?
Iwan: Hyfryd. Roedd pobl Nepal yn gyfeillgar iawn ... ac roedd y criw clirio sbwriel yn hyfryd hefyd.
Cyflwynydd: Hoffech chi fynd ’nôl?
Iwan: Hoffwn – heb os nac oni bai!