Beth ydych chi’n feddwl o ...?

Hunluniau

Hunluniau

Ydych chi’n tynnu hunlun weithiau?

Pryd?

Pam?

Faint o amser mae’n gymryd? Sawl eiliad?

 

Edrychwch ar yr hunlun yma.  Dyma’r hunlun cyntaf, efallai.

 

Yr hunlun cyntaf

first-selfie.jpg

Robert Cornelius ydy enw’r dyn yn y llun. Roedd o’n sefyll yn yr iard tu ôl i siop y teulu yn Philadelphia i dynnu’r llun ym mis Hydref 1839. Roedd rhaid sefyll yn yr iard am sawl munud i dynnu’r llun.

Ar gefn y llun, mae’r geiriau: “The first light picture ever taken."

 

gan: Angharad 28 Awst 2015

Newyddion ffantastig!

Newyddion ffantastig! Mae Lyn a fi’n mynd i’r gig yn y parc nos Sadwrn Awst 28. Mae bandiau mawr yn dod. Dw i’n edrych ymlaen.

 

 

gan: Angharad 22 Awst 2015

Amser gwych

Ces i amser gwych heddiw. Es i i’r dre gyda Lyn i brynu dillad newydd i’r gig – trowsus a siaced hyfryd. Yna, pizza a ffilm. Roedd hi’n braf iawn – heulog iawn. Gobeithio bydd hi’n braf nos Sadwrn! Dw i’n edrych ymlaen.

 

gan: Angharad 25 Awst 2015

Dim llawer o amser!

Dim llawer o amser! Mae Lyn yn dod yma mewn pum munud ac rydyn ni’n mynd i’r gig. Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr. Hwyl fawr!

gan: Angharad 29 Awst 2015

Siomedig!

Siomedig! Roedd neithiwr yn siomedig iawn. Roedd y bandiau’n wych ond roedden ni’n sefyll tu ôl i giang o ferched tal, swnllyd ac roedden nhw’n tynnu hunluniau drwy’r amser. Roedden nhw’n troi rownd, gyda’u cefnau at y llwyfan ac yn ein hwynebu ni, ac yna roedden nhw’n tynnu hunluniau drwy’r nos. Roedden nhw’n sbwylio popeth!

gig-photo.jpg

Geiriau diddorol:

hun (self) + llun (picture) = selfie

wyneb (face)       wynebu (to face)             

Help
Geirfa

hunlun, hunluniau

selfie, selfies

tynnu

to take

cymryd

to take

eiliad, eiliadau

second, seconds

sawl

several

cefn, cefnau

back, backs

edrych ymlaen

to look forward

prynu

to buy

gobeithio

hopefully

siomedig

 disappointing
 sefyll  to stand

llwyfan

stage

wynebu to face