Edrych ymlaen ...

Bwyd y dyfodol

Mae rhai pobl yn dweud, “Bydd rhaid i ni fwyta bwyd gwahanol yn y dyfodol. Mae mwy o bobl yn byw yn y byd bob blwyddyn ac felly rhaid i ni feddwl am fwyta pethau eraill.”

Ond beth? Dyma rai syniadau:

Pryfed

Mae rhai pobl yn dweud, “Bydd rhaid i ni fwyta pryfed yn y dyfodol. Maen nhw’n flasus ond hefyd maen nhw’n dda i ni.”

Dyma sboncyn y gwair, er enghraifft.

Ydy o’n dda i chi? Edrychwch:

Faint mewn 100 gram:

  Sboncyn y gwair* Byrger cig eidion*
Protein tua 14g 16g
Braster tua 3g 17g
Carbohydradau tua 2g 5g

 

* Mae’n dibynnu ar y sboncyn y gwair a’r math o fyrger, wrth gwrs.

 

Mae calsiwm a haearn mewn sboncyn y gwair – ac maen nhw’n dda i chi.

Un peth da arall does dim rhaid talu am sboncynnod y gwair. Maen nhw am ddim!

Sut byddwn ni’n bwyta sboncynnod y gwair – a phryfed eraill? Mewn reis wedi ffrio efallai, neu mewn byrger neu efallai byddwn ni’n ffrïo’r pryfed gyda garlleg. Hefyd, mae’n bosib byddwn ni’n bwyta’r pryfed mewn caramel neu mewn meringue. Mmm – blasus!

 

Traed anifeiliaid

Ydych chi’n hoffi bwyta cyw iâr?

 

 

Ym Mhrydain, rydyn ni’n bwyta dros wyth cant saith deg tri miliwn (873 000 000) o gywion ieir bob blwyddyn ond dydyn ni ddim yn bwyta’r traed!

 

Mae traed ieir yn dda i chi – mae calsiwm yn y traed, er enghraifft. Mae rhai pobl yn Asia yn bwyta traed ieir heddiw ond efallai, yn y dyfodol, byddwn ni yng Nghymru yn bwyta’r bwyd yma.

Cig o labordy

Ydych chi’n bwyta cig? Porc, cig oen neu gig eidion efallai?

 

 

 

Mae’n bosib byddwn ni’n bwyta cig o labordy yn y dyfodol. Mae’n bosib bydd pobl yn tyfu cig o stem cells anifeiliaid yn y dyfodol.

 

 

Beth fyddwch chi’n bwyta yn y dyfodol?

 

 

Help
Geirfa
pryfed insects
sboncyn y gwair grasshopper
sboncynnod y gwair grasshoppers
braster fat
haearn iron
garlleg garlic
ieir  hens, chickens
labordy  laboratory
cig oen  lamb
cig eidion  beef

[macroErrorLoadingPartialView]