Beth ydy’ch enw chi?
Catherine Eira Davies ydw i.
O ble ydych chi’n dod
Dw i’n dod o Swindon.
Ble ydych chi’n byw rŵan?
Dw i’n byw yn Ninbych rŵan.
Beth ydy’ch gwaith chi?
Mae gen i salon cŵn. Enw’r busnes ydy Cat's Dogs.
Ydych chi’n mwynhau’r gwaith?
Ydw, dw i’n mwynhau’r gwaith yn fawr achos dw i’n caru anifeiliaid a dw i’n mwynhau gweithio efo fy nwylo.
Beth yn union ydych chi’n wneud?
Dw i’n golchi’r cŵn ac yn torri eu blew. Dw i’n torri ewinedd y cŵn ac yn glanhau eu clustiau nhw. Mae’r cŵn yn hapus iawn!
Oes gennych chi stori ddiddorol am y gwaith?
Oes. Mae gen i gi ac, unwaith, defnyddiais i siampŵ newydd ar fy nghi i. Ci gwyn oedd o – cyn y siampŵ – ond ar ôl y siampŵ, roedd o’n biws!
Ydy Cymraeg yn bwysig yn eich gwaith chi?
Ydy. Dw i’n siarad Cymraeg efo’r Cymry ac mae hyn yn bwysig. Mae rhai pobl yn dewis salon achos maen nhw eisiau siarad Cymraeg. Hefyd rhaid i mi siarad Cymraeg efo’r cŵn os ydyn nhw’n dod o gartrefi Cymraeg achos dydyn nhw ddim yn deall Saesneg. Dw i ddim yn dweud “Sit” neu “Stand” i gŵn o gartrefi Cymraeg achos dydyn nhw ddim yn deall!
Diolch am siarad efo ni.
Croeso!
Mae gen i ... = Mae ... gyda fi ... – I’ve got...
Mae gen i salon. = Mae salon gyda fi. – I’ve got a salon.
Mae gen i gi. = Mae ci gyda fi. – I’ve got a dog.
Oes gennych chi ...? = Oes ... gyda chi? – Have you got ...?
Oes gennych chi stori ddiddorol? = Oes stori ddiddorol gyda chi? – Have you got an interesting story?
Geirfa | |
cŵn | dogs |
caru | to love |
fy nwylo | my hands |
yn union | exactly |
blew | hair (of an animal) |
ewinedd | nails |
glanhau | to clean |
eu clustiau nhw | their ears |
unwaith | once |
cyn | before |
ar ôl | after |
pwysig | important |
defnyddio | to use |
efo | with the |
Cymry | Welsh people |
deall | to understand |
O ba iaith mae’r geiriau yma’n dod?
salon
siampŵ