Cymraeg - hwyl, gŵyl a gwaith

Gŵyl gerddoriaeth grêt!

Jordan: Jordan:

Es i i Tafwyl yn yr haf ac roedd e’n wych. Nawr, dw i eisiau clywed mwy o fandiau Cymraeg.

Rob: Rob:

Tafwyl? Beth ydy Tafwyl?

Jordan: Jordan:

Gŵyl Gymraeg yng Nghastell Caerdydd. 

Rob: Rob:

Gŵyl Gymraeg?!?!?!? Diflas dw i’n meddwl!

Jordan: Jordan:
Rob: Rob:

Oedd “Welsh cakes” yno?

Jordan: Jordan:

Welais i ddim pice ar y maen.

Rob: Rob:

Oedd cawl cennin yno?

Jordan: Jordan:

Welais i ddim cawl cennin.

Rob: Rob:

Beth am gennin Pedr?

Jordan: Jordan:

Welais i ddim cennin Pedr.

Rob: Rob:

Beth oedd yno ’te?

Jordan: Jordan:

Wel, roedd llawer o fandiau Cymraeg yn perfformio – roedden nhw’n wych.

Rob: Rob:

Bandiau Cymraeg?

Jordan: Jordan:

Bandiau Cymraeg!

Alys: Alys:

Mae llawer o fandiau Cymraeg gwych o gwmpas.

Rob: Rob:
Alys: Alys:

Dw i’n hoffi Anelog.

Rob: Rob:

Pwy?

Alys: Alys:

Anelog. Os wyt ti eisiau clywed Anelog yn canu, clicia yma: https://soundcloud.com/anelog

Gwranda ar y gân “Siabod”. Mae’r gerddoriaeth yn ddiddorol – mae’r sŵn yn wahanol – mae’r offerynnau’n wych ac maen nhw’n canu’n dda hefyd.

Chris: Chris:

Mae’n well gyda fi fand o’r enw Y Bandana.  Os wyt ti eisiau clywed Y Bandana’n canu, clicia yma: https://www.youtube.com/watch?v=PRoOwxWstVY

Mae’r geiriau ar y sgrin hefyd felly mae hynny’n help mawr. Maen nhw’n canu’n ardderchog.

Khalid: Khalid:

Fy hoff gân i ydy “Coffi Du” gan Gwibdaith Hen Frân. Clicia yma: https://www.youtube.com/watch?v=N5ZHRYVBGok

i glywed y gân ac i weld y geiriau – ac i ganu gyda nhw.

Rob: Rob:

Canu gyda nhw – yn Gymraeg? Dw i ddim yn meddwl.

Khalid: Khalid:

Pam lai? Mae bandiau Cymraeg gwych o gwmpas heddiw.

Jordan: Jordan:

Dw i’n cytuno – mae bandiau ardderchog yn canu yn Gymraeg. Os wyt ti eisiau clywed mwy, beth am wrando ar raglen C2 ar Radio Cymru.

Rob: Rob:

Iawn!

Help
Geirfa
gŵyl festival
dim o gwbl not at all
pice ar y maen = cacennau cri Welsh cakes
o gwmpas around
er enghraifft for example
gwahanol different
offerynnau instruments
hynny that
Pam lai? Why not?

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

bands

perform

Cofiwch:

Mae’n well gyda fi ... = Mae’n well gen i ... – I prefer ...