Cymraeg - hwyl, gŵyl a gwaith

Hwyl – yr Urdd (1)

Hwyl – yr Urdd (1)
gan: SOFIA 16 Mai 2016

BLOG SOFIA – TAITH I’R GOGLEDD

Dw i yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn – ac mae’n WYCH!

Daliais i’r bws am hanner awr wedi wyth y bore yma. Teithion ni i fyny o Aberaeron, drwy Aberystwyth a Machynlleth a stopion ni ym Machynlleth am hanner awr.

Mae’r gwersyll yn anhygoel - mae e ar lan llyn ac rydyn ni’n mynd i ganŵio y prynhawn yma. Mae llawer o bethau i wneud yma fel dringo, canŵio, caiacio a mwy. Dw i’n edrych ymlaen.

 

Rhaid i fi fynd! Dw i’n mynd i ysgrifennu mwy heno.

 

Dyma lincs i chi os ydych chi eisiau gweld ble dw i’n aros :

http://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/glan-llyn/cyfleusterau/

http://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/glan-llyn/pethau-iw-wneud/gweithgareddau/

gan: BEN 26 Mai 2016

BLOG BEN – TAITH I’R DE

Helo, bawb. 

Dw i yng Ngwersyll yr Urdd, Caerdydd.

Daliais i’r bws am naw o’r gloch y bore yma. Teithion ni i lawr o Ruthun, drwy Amwythig, drwy Henffordd ac yna aethon ni i’r Pwll Mawr ar y ffordd. Roedd o’n anhygoel!  Aethon ni i lawr ... i lawr ... i lawr ... o dan y ddaear i weld ble roedd y glowyr yn gweithio. Anhygoel! Edrychwch ar:

http://www.amgueddfacymru.ac.uk/bigpit/

 

Mae gwersyll yr Urdd yn wych. Mae e yng Nghaerdydd – yn y ddinas, wrth y bae – tu ôl i Ganolfan y Mileniwm.

Heno, rydyn ni’n mynd i sglefrio iâ yn y ddinas ac yfory rydyn ni’n mynd i weld Stadiwm y Principality ac rydyn ni’n mynd o gwmpas y Bae. Dw i’n edrych ymlaen.

Amser te – rhaid i mi fynd.

Darllenwch y blog yfory os ydych chi eisiau gwybod mwy!

 

Dyma lincs i chi os ydych chi eisiau gwybod mwy:

http://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/caerdydd/cyfleusterau/.

http://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/caerdydd/pethau-iw-wneud/atyniadau/

Help
Geirfa
gwersyll camp
dal to catch
teithio to travel
anhygoel incredible, awesome
ar lan on the shore of
llyn lake
edrych ymlaen to look forward
Amwythig Shreswbury
Henffordd Hereford
Pwll Mawr  Big Pit
pethau things
y ddaear the ground
glowyr coalminers
dinas city
bae bay
sglefrio iâ ice skating