Cymraeg - hwyl, gŵyl a gwaith

Hwyl – yr Urdd (3)

Mae’r Urdd yn wych.

Pam?

Achos mae’n bosib cael hwyl – llawer  hwyl – yn Gymraeg. Edrychwch ar y sleidiau yma:

Ewch i Dasg 1.

Y dechrau

Pwy: Dechreuodd Syr Ifan ab Owen Edwards yr Urdd.

Pryd: Yn 1922.

Pam: Roedd e’n poeni am yr iaith Gymraeg. Roedd e’n poeni bod plant a phobl ifanc Cymru yn chwarae yn Saesneg ac yn darllen Saesneg – dim Cymraeg. Roedd e eisiau mudiad Cymraeg i blant a phobl ifanc Cymru.

Beth wedyn:   

Erbyn diwedd 1923, roedd tua thair mil (3,000) o aelodau yn yr Urdd

Erbyn diwedd 1927, roedd dros bum mil (5,000) o aelodau.

Erbyn heddiw, mae dros bum deg mil (50,000) o aelodau.

Heddiw, mae’r Urdd yn trefnu teithiau ... yn cynnal cystadlaethau ... yn cynnal eisteddfodau a gigs ... yn helpu pobl i fwynhau yn Gymraeg.

Help
Geirfa
poeni to worry
mudiad movement
trefnu to organize, arrange
cynnal to hold (an event)