Rhifyn 14 - Disgrifio

Cerddorol?

postcard
Slide background

Helo.

Mae’r daith i’r Almaen yn wych ac rydyn ni wedi teithio llawer. Rydyn ni yn Dresden nawr am dri diwrnod. Rydyn ni’n cael amser gwych yma! Mae’r dref yn fodern iawn ac mae pethau diddorol iawn yma.

Roedd hi’n bwrw glaw ddoe ac felly aethon ni i weld y tŷ sy’n canu. Mae’r tŷ’n dal. Mae e’n las gyda ffenestri glas. Mae e’n ddiddorol iawn achos mae peipiau ar y waliau. Pan mae hi’n bwrw glaw, mae’r dŵr yn rhedeg drwy’r peipiau ac felly maen nhw’n gwneud “cerddoriaeth” arbennig. Dyna pam mae pobl yn galw’r tŷ, “y tŷ sy’n canu”.

Diolch am y bisgedi a’r siocledi. Roedd pawb yn eu hoffi nhw.

Wela i di wythnos nesaf.

Chris

Mrs Nina Jones

6 Y Stryd Fawr

Aberaeron

Ceredigion

Pa un o’r lluniau yma sy ar ochr arall y cerdyn post tybed? Pam?

Os hoffech chi glywed y tŷ’n canu, cliciwch isod. Mae tipyn bach o siarad ar ddechrau’r clip, felly ewch heibio'r siarad ac yna gwrandewch ar y “gerddoriaeth”.

https://www.youtube.com/watch?v=JQZgq_lrwQ4

Geirfa
   
sy’n canu that sings
taith journey, trip
yr Almaen Germany
diwrnod a day
pethau things
tal tall
peipiau pipes
tybed I wonder
tipyn bach o a little
ewch heibio pass, to go past

Beth ydy’r Gymraeg?

to travel

The town is modern.

to run through

  

Centre Georges Pompidou - Paris gan FotografoDigitale; fe'i defnyddir o dan CC BY.