Rhifyn 14 - Disgrifio

Diddorol!

Diddorol!

Mae cathod bob man – ar lan y môr ... yn y strydoedd ... yn y caeau ... yn y tai ... pob man!

 

Ble?

Yn Aoishima, pentref bach ar ynys yn Japan. Mae llawer o bobl yn galw’r ynys yn Ynys y Cathod.

Pam? 

Amser maith yn ôl, roedd llawer o lygod ar yr ynys ac felly roedd angen cathod i ddal y llygod. Heddiw, does dim llygod, ond mae llawer o gathod.

 

Beth arall?     

Does dim llawer o bethau ar yr ynys. Mae tai yno ond mae llawer o’r tai yn hen ac yn wag. Mae harbwr bach yno ac mae’r fferi’n dod i’r ynys ddwywaith y dydd. Does dim llawer o bethau eraill yno. Does dim siopau. Does dim tai bwyta.

 

Pwy sy’n byw yma?

Does dim llawer o bobl yn byw yma – tua 15 person ...

 

... OND ...

 

... mae llawer iawn o gathod yn byw yma – dros 120 o gathod!

 

Beth sy’n digwydd yma?

Mae’r cathod yn bwyta ... yn cysgu ... yn cerdded ... yn cysgu ... yn bwyta eto ... yn cysgu eto.  Maen nhw’n cerdded i lawr i’r harbwr i gyfarfod â’r fferi.

 

Mae llawer o dwristiaid yn dod i weld y cathod. Mae pobl Japan wrth eu bodd gyda chathod (Meddyliwch: O ble mae Hello Kitty yn dod?).  Mae’r twristiaid yn cerdded gyda’r cathod. Maen nhw’n codi’r cathod. Maen nhw’n mwytho’r cathod. Maen nhw’n rhoi bwyd i’r cathod. Maen nhw’n mwynhau bod gyda’r cathod.

 

Ynys ddiddorol! Os ydych chi eisiau gweld y cathod ar yr ynys, cliciwch yma:

https://www.youtube.com/watch?v=rHLLDOyZepY

 

Bobl bach!

Mae tua 12 o ynysoedd cathod o gwmpas Japan. Mae pobl Japan yn hoffi cathod, mae’n amlwg!

Geirfa
   
b/pob man everywhere
caeau fields
ynys island
amser maith yn ôl a long time ago
llygod mice
angen need
dal to catch
gwag empty
dwywaith twice
cyfarfod â to meet
wrth eu bodd extremely happy, love
codi to pick up
mwytho to stroke
mae’n amlwg obviously