Rhifyn 14 - Disgrifio

Doniol!

Edrychwch ar y lluniau yma.

Beth sy yn y lluniau?

Anifeiliaid lliwgar o wydr ffeibr.  Mae rhai anifeiliaid yn goch ... mae rhai anifeiliaid yn las ... mae rhai anifeiliaid yn wyrdd.


Pa fath o anifeiliaid?

Anifeiliaid gwyllt.


Ble?

Yn y sŵ doniol.


Ble yn union?

Maen nhw’n teithio. Mae’r anifeiliaid yn y lluniau ym Marseille, Ffrainc. Ond mae’r sŵ doniol yn teithio i leoedd eraill ac i wledydd eraill. Yn 2016, mae’r sŵ doniol yn mynd i Dde Califfornia. Mae’n bosib gweld yr anifeiliaid yn y strydoedd, mewn parciau ac mewn siopau.


Pwy sy’n gwneud yr anifeiliaid?

Artistiaid, peintwyr, cerflunwyr.


Pam?

Mae artistiaid yn gwneud yr anifeiliaid i addysgu pobl am anifeiliaid prin ac i ddweud, “Rhaid i ni edrych ar ôl yr anifeiliaid gwyllt.”


I weld rhai o’r anifeiliaid, ewch i: http://www.funnyzoo.us/

Geirfa
   
gwydr ffeibr fibreglass
gwyllt wild
yn union exactly
lleoedd places
gwledydd countries
eraill other
cerflunwyr sculptors
addysgu to educate, teach
prin rare
ffurf unigol singular form

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

animals

artists

pictures

painters

streets

parks

shops

Tybed beth ydy ffurf unigol y geiriau yma?

 

Le Funny Zoo de #Marseille gan grego1402; fe'i defnyddir o dan CC BY.

marseille_funny_zoo_3 gan damien; fe'i defnyddir o dan CC BY.

marseille_funny_zoo_1 gan damien; fe'i defnyddir o dan CC BY.

marseille_funny_zoo_5 gan damien; fe'i defnyddir o dan CC BY.