Rhifyn 14 - Disgrifio

Drud!

Rydych chi’n mynd i wrando ar sgwrs rhwng Chris a’i dad.

 

Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.

Help
 Geirfa  
wedi torri broken
ar y we on the internet
lawrlwytho to download
newydd sbon brand new
ysgafn light
clir clear
digon o enough
cof memory
benthyg borrow

Sgript

 

   
Chris: Dad, mae fy ffôn i wedi torri.
Dad: O?
Chris: Rhaid i fi gael ffôn newydd.
Dad: Pam?

Chris:
 

Dw i eisiau tecstio ... a mynd ar y we ... a siarad â ffrindiau ... a chwarae gemau ... a lawrlwytho apiau a ...
Dad: Iawn. Dyma ti.
Chris: Beth ydy hwn?
Dad: Fy hen ffôn i.
Chris: Ond dw i eisiau ffôn newydd sbon. Edrycha.
Dad: Beth ydy hwn?
Chris: Llun ffôn – o’r we. Mae’n wych.
Dad: O?
Chris: Mae’n ddu.
Dad: Neis iawn.
Chris: Mae’n ysgafn
Dad: Neis iawn.
Chris: Mae’n smart. 
Dad: Neis iawn.

Chris:

 

Edrycha, Dad – mae’r sgrin yn glir ... mae’n bosib mynd ar y we ... a chwarae gemau ... ac mae’r camera’n wych – mae’n bosib gwneud fideos. Mae digon o gof i apiau ... a lluniau ... a ...
Dad: Faint ydy e?
Chris: Dau ddeg pum punt y mis.
Dad: Faint?!
Chris: Dau ddeg pum punt y mis.
Dad: Bobl bach! Mae e’n ddrud.
Chris: Ond mae e’n ffôn da, Dad.
Dad: O ble wyt ti’n mynd i gael arian?
Chris: Ga i fenthyg arian, os gwelwch yn dda? 
Dad: Na chei – mae’n ddrwg gen i.
Chris: Ond o ble dw i’n mynd i gael arian i brynu’r ffôn?