Rhifyn 14 - Disgrifio

Hardd!

Edrychwch ar y geiriau yma:

gwaith – work

celf – art

gwaith celf – artwork

Edrychwch ar y llun yma. 

Beth sy yn y llun?

Mae car Volkswagen yn y llun ac mae e’n gwisgo het.


Pam?

Gwaith celf yn Ontario, Canada, ydy e. Mae’r artist wedi ailgylchu’r car i greu gwaith celf.


Edrychwch ar y llun yma.

Beth sy yn y llun yma?

Mae poteli lliwgar yn y llun. Mae golau yn y poteli.


Disgrifiwch y poteli.

Mae’r poteli’n lliwgar. Mae poteli glas, gwyrdd, oren, pinc a gwyn yn y llun. Maen nhw’n eitha bach. Mae’r artist wedi ailgylchu poteli i greu gwaith celf.


Edrychwch ar y llun yma.

Beth sy yn y llun yma?

Mae eliffant yn y llun.


Disgrifiwch e.

Mae’r eliffant yn lliwgar. Mae llawer o deganau ar yr eliffant – doli, tedis – ac mae llawer o flodau ar yr eliffant hefyd.


Beth ydy e?

Gwaith celf gan Anthony Heywood ydy e.


Geirfa
   
ailgylchu to recycle
creu to create
golau light

 

Beth ydy’r geiriau?

Gwreiddiol (Original) Cymraeg Saesneg
Lladin: art   artist
Groeg: elephantinos    
Hen Ffrangeg: boteille potel