Rhifyn 15 - Mynegi barn

Anifeiliaid anwes gwahanol

Mae rhai pobl yn cadw anifeiliaid anwes “gwahanol”.

Darllenwch y cliwiau i weld beth ydy'r anifeiliaid.

 

Anifail 1

 

Gogledd Cymru

De Cymru

Mae o’n fawr. Mae ei gorff o tua 158-250 cm. Mae ei gynffon o tua 60-100 cm.

Mae o’n gryf iawn.

Mae o’n frown.

Mae ganddo fo bedair coes a phedair pawen.

Mae ganddo fo geg fawr a dannedd cryf.

Mae o’n bwyta cig.

Mae o’n byw yn Affrica fel arfer.

Mae e’n fawr. Mae ei gorff e tua 158-250 cm. Mae ei gwt e tua 60-100 cm.

Mae e’n gryf iawn.

Mae e’n frown.

Mae pedair coes a phedair pawen gyda fe.

Mae ceg fawr a dannedd cryf gyda fe.

Mae e’n bwyta cig.

Mae e’n byw yn Affrica fel arfer.

 

Anifail 2

Gogledd Cymru De Cymru

Mae o’n hir. Mae ei gorff o tua 4.3-5.0 m.

Mae o’n gryf iawn.

Mae o’n llwyd-wyrdd.

Mae ganddo fo bedair coes a thrwyn hir.

Mae ganddo fo geg fawr a dannedd cryf.

Mae o’n bwyta cig a physgod.

Mae o’n byw yn Affrica, Asia neu Awstralia fel arfer.

Mae e’n hir. Mae ei gorff e tua 4.3-5.0 m.

Mae e’n gryf iawn.

Mae e’n llwyd-wyrdd.

Mae pedair coes a thrwyn hir gyda fe.

Mae ceg fawr a dannedd cryf gyda fe.

Mae e’n bwyta cig a physgod.

Mae e’n byw yn Affrica, Asia neu Awstralia fel arfer.

Beth ydy'r anifeiliaid? Ewch i'r adran Atebion.

Anifeiliaid gwahanol

Mae rhai pobl yn Mhrydain yn cadw anifeiliaid anwes “anarferol” iawn. Dyma rai o’r anifeiliaid anwes “anarferol”:

Anifeiliaid Anarferol

Bobl bach!

Geirfa
   
 corff body
cynffon tail
cwt tail
cryf strong
pawen paw
dannedd teeth
llwyd-wyrdd grey-green
trwyn nose
anarferol unusual
estrys ostrich
llewpard leopard