Rhifyn 15 - Mynegi barn

Ar y woc

 

Mae’n cŵl! Mae’n gyflym. Mae’n hwyl!

Beth ydy e? Rasio ar woc. Ie, rasio ar woc!

Fel arfer, mae pobl yn defnyddio wocs yn y gegin i wneud bwyd ond yn yr Almaen mae rhai pobl yn defnyddio wocs ar gyfer rasio.

Sut maen nhw’n rasio?

  • Maen nhw’n eistedd ar y woc.
  • Maen nhw’n rasio i lawr trac arbennig, e.e. trac bobsled.

Mae gwaelod y woc yn eitha crwn, felly mae’r bobl yn troelli ar y woc ac maen nhw’n bwrw i mewn i waliau’r trac weithiau.

 

Dillad

Mae rasio ar woc yn eitha peryglus. Felly, maen nhw’n gwisgo:

Os ydych chi eisiau gweld rasio ar woc, cliciwch yma:

https://www.youtube.com/watch?v=18C-KK9l_Ec

https://www.youtube.com/watch?v=j5-FcE7_PzI

 

 

Geirfa
   

woc

wok

defnyddio

(to) use

ar gyfer

for

arbennig

special

gwaelod

base, bottom

crwn

round

troelli

(to) spin

bwrw

(to) hit

peryglus

dangerous

trwchus

thick

pencampwriaeth

championship