Rhifyn 15 - Mynegi barn

Creision gwahanol

Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.

Geirfa
 

 

cwmni

company

rhoi eich barn chi

(to) give your opinion

blasus

tasty, delicious

sbeislyd

spicy

hallt

salty

halen

salt

gormod

too much

melys

sweet

mefus

strawberries

betys

 

beetroots

 

braidd yn ...

 

rather ...

cnau mwnci

peanuts

cnau

nuts

y rhain

these

Loading the player...
Sgript
   

Merch:

Esgusodwch fi, ydych chi’n hoffi creision?

Bachgen:

Ydw. Wrth gwrs.

Merch:

Dw i’n gweithio i gwmni creision ac rydyn ni’n gwneud creision newydd.

Bachgen:

O?

Merch:

Ga i ofyn cwestiynau i chi?

Bachgen:

Cewch.

Merch:

Iawn ... Yn gyntaf, eich enw chi ... beth ydy’ch enw chi?

Bachgen:

Will Rees.

Merch:

Diolch, Mr Rees. Dw i eisiau i chi fwyta creision ...

Bachgen:

O, gwych!!!

Merch:

... ac yna roi eich barn chi.

Bachgen:

Grêt. Bwyta creision ... ac yna rhoi barn.

Ardderchog!

Merch:

Diolch. Creision A:

 Bachgen:  

Mmm – eitha blasus. Eitha sbeislyd.

 Merch:  

“Eitha sbeislyd.” Diolch. Creision B:

 Bachgen:  

Mmm – iawn – eitha hallt.

Merch:

Hallt?

Bachgen:

Ie – hallt – mae gormod o halen ar y creision yma.

Merch:

Diolch. Creision C.

Bachgen:

Lliw diddorol.  .... Blasus ond gwahanol.

Merch:  

Blasus ond gwahanol.”

Bachgen:  

Eitha melys, dw i’n meddwl.

Ga i un arall os gwelwch yn dda?

Merch:  

Cewch, wrth gwrs.

Bachgen:  

Na ... dw i ddim yn hoffi creision C.

Merch:  

Pam?

Bachgen:  

Maen nhw’n felys ... yn rhy felys.

Beth ydyn nhw?

Merch:  

Creision mefus a betys.

Bachgen:  

Creision mefus a betys? Ych a fi!

Merch: Diolch am eich barn chi.
   
Merch:

Esgusodwch fi, ydych chi’n hoffi creision?

Merch 2:

Wrth gwrs.

Merch:

Dw i’n gweithio i gwmni creision ac rydyn ni’n gwneud creision newydd.

Merch 2:

O?

Merch: Ga i ofyn cwestiynau i chi os gwelwch yn dda?
Merch 2:

Cewch.

Merch:

Iawn ... Yn gyntaf, eich enw. Beth ydy’ch enw?

 Merch 2:

Sioned Williams.

 Merch:  

Diolch. Dw i eisiau i chi fwyta creision ...

 Sioned:  

Iawn!

 Merch:  

... ac wedyn rhoi eich barn chi.

 Sioned:  

Grêt - bwyta creision a rhoi barn. Dim problem!

 Merch:  

Diolch. Creision A:

 Sioned:  

Mmm – braidd yn sbeislyd

 Merch:  

Ydyn nhw’n rhy sbeislyd?

 Sioned:  

Ydyn – maen nhw’n rhy sbeislyd i fi.  Beth ydyn nhw?

 Merch:  

Creision cyrri.

 Sioned:  

Bobl bach!

 Merch:  

Diolch. Creision B:

 Sioned:  

Mmm –  braidd yn hallt.

 Merch:  

Hallt?

Sioned:

Braidd yn hallt.

Maen nhw fel cnau mwnci gyda gormod o halen. Dydy’r creision yma ddim yn iach – mae gormod o halen ar y creision yma. Beth ydyn nhw?

Merch:

Creision cnau ... Iawn ... Creision C.

Sioned:

Lliw diddorol  .... www, gwahanol ... braidd yn felys. Dw i’n hoffi’r rhain.

Beth ydyn nhw?

Merch:

Creision mefus a betys.

Sioned:

Waw – creision mefus a betys? Diddorol iawn. Mae’r rhain yn iach – betys a mefus – dyna ddau o’r “pump bob dydd”.

Merch:

Pardwn?

Sioned:

Pump bob dydd ...

Sioned:

... five a day.

Merch:

O, wrth gwrs. Diolch am eich barn chi.

   

Edrychwch:

 

Dw i eisiau creision.    I want some crisps.

Dw i eisiau help.         I want help.

 

OND os oes person arall:

Dw i eisiau i chi fwyta creision.         I want you to eat some crisps.

Dw i eisiau i chi ateb cwestiynau.      I want you to answer some questions.

 

Hefyd:

Dw i eisiau i chi wrando.                   I want you to listen.

Dw i eisiau i chi ddarllen.                  I want you to read.

Dw i eisiau i chi ysgrifennu.               I want you to write.

Dw i eisiau i chi wylio’r ffilm.             I want you to watch the film.

 

 

Beth ydy’r patrwm?