Rhifyn 15 - Mynegi barn

Diddorol!

Edrychwch yn ofalus ar y sioe sleidiau yma ac yna ewch i Dasg 1.

Mae llawer o'r pethau yma wedi torri neu maen nhw’n hen. Dyma’r pethau mae llawer o bobl yn taflu yn y bin sbwriel – neu yn y bin ailgylchu. “Sbwriel” ydy’r pethau yma.  Ydych chi’n cytuno?

Ond ...

... yn Bad Säckingen, tref fach yn Ne’r Almaen, mae amgueddfa arbennig.

 

 

Amgueddfa sbwriel ydy hi, lle mae’n bosib gweld hen radios, hen dedis, hen deganau, hen glociau, hen lestri a Beibl o 1743. Mae’r pethau yma wedi dod o’r domen sbwriel. 

Sut? 

Roedd Erich Thomann yn gweithio yn y domen. Roedd e’n gyrru tarw dur. Cyn gyrru’r tarw dur dros y sbwriel, roedd e’n edrych i weld beth oedd yn y domen ac roedd e’n mynd â’r pethau gorau i ddechrau’r amgueddfa. Roedd Agnes, gwraig Erich, yn golchi’r pethau ac yna roedden nhw’n mynd i’r amgueddfa sbwriel.

Geirfa
   
hen old
wedi torri broken
taflu (to) throw
amgueddfa museum
teganau toys
tomen tip
tarw dur bulldozer
mynd â (to) take
gwraig wife

 

tarw dur

tarw = bull

dur = steel

tarw dur = bulldozer!