Rhifyn 16 - Ffantasi

Ffantasi Cymru

Dyma ddau le ffantasi yng Nghymru.

Pentref Portmeirion

 

Pentref Eidalaidd ydy pentref Portmeirion yng ngogledd-orllewin Cymru.

Yno, mae tai lliwgar, siopau diddorol, castell, tai bwyta, gerddi hyfryd, traeth a llawer mwy.

Syr Clough Ellis Williams adeiladodd y pentref. Roedd e wedi bod yn teithio yn yr Eidal.

Castell Coch

 

Mae Castell Coch yn ne-ddwyrain Cymru, ger Caerdydd.

Castell coch ydy e – mae e’n edrych yn goch tu allan. Mae’r castell yn ddiddorol iawn ac mae ystafelloedd hardd ynddo fe. Mae’r waliau’n arbennig o hardd.  Mae coedwig tu allan.

Mae’r castell yn eitha modern - castell Fictoraidd ydy e. Cynlluniodd William Burges y castell i John Patrick Crichton-Stuart, 3ydd marcwis Bute.

Geirfa
   
gogledd-orllewin north-west
Eidalaidd Italian
tai houses
gerddi gardens
adeiladu (to) build
roedd e wedi bod he had been
de-ddwyrain south-east
ynddo fe in it
coedwig woods, forest
cynllunio (to) design
marcwis marquess