Rhifyn 16 - Ffantasi

Gwyliau delfrydol

Gwyliau delfrydol

Beth fasai'ch gwyliau delfrydol chi?

Steph Steph

Hoffwn i deithio yn y gofod.

Chris Chris

Teithio yn y gofod? Pam hoffet ti fynd i’r gofod?

Steph Steph

Achos hoffwn i fynd mewn roced a hoffwn i deithio drwy’r awyr las i’r gofod tywyll.

Chris Chris

Ffantasi!

Steph Steph

Dim o gwbl. Dw i’n cynilo fy arian nawr a bydda i’n mynd i’r gofod un diwrnod.

Chris Chris

Faint fydd o’n costio?

Steph Steph

Tua dau gant pum deg mil o ddoleri.

Chris Chris

FAINT?!?

Steph Steph

Tua dau gant pum deg mil o ddoleri.

Chris Chris

Ffortiwn! Mae’n ddrud – mae’n rhy ddrud.

Steph Steph
Chris Chris

Beth sy yn y pris?

Steph Steph

Hyfforddiant yn America – llawer o hyfforddiant. Yna, teithio mewn grŵp bach (tua 4-5 o bobl) mewn roced arbennig tua 100 cilomedr uwchlaw’r Ddaear.

Chris Chris

Waw! Beth faset ti’n gwneud ar y roced?

Steph Steph

Baswn i’n edrych i lawr ar y Ddaear. Hoffwn i weld y môr glas a’r gwledydd. Baswn i’n tynnu lluniau. Baswn i’n symud o gwmpas y roced – hwyl! Efallai baswn i’n bwyta neu’n yfed yn y roced – mae’n anodd iawn.

Chris Chris

Ffantasi!

Steph Steph

Wel, beth hoffet ti wneud ’te?

Chris Chris

Hoffwn i gael gwyliau gwahanol ...

Geirfa
   
Beth fasai...? What would ... be?
gofod space
awyr sky
tywyll dark
cynilo (to) save
dim o gwbl not at all
hyfforddiant training
uwchlaw above
y Ddaear Earth
gwledydd countries
tynnu lluniau (to) take photographs