Rhifyn 16 - Ffantasi

Parti gwahanol

Rydych chi'n mynd i wrando ar ddau berson yn siarad. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.

Geirfa
   
arian silver
sgleiniog shiny
thema theme
gofod space
madarch mushrooms
pasteiod pasties
siâp shape
y Lleuad the Moon
sudd juice
Dere Come on

Sgript
   

Merch:

Beth wyt ti’n gwisgo, Ben?

Bachgen:

Pam?

Merch:

Rwyt ti’n edrych yn ... od!

Bachgen:

Od?  Diolch yn fawr, Cerys.

Merch:

Wel, beth wyt ti’n gwisgo?

Bachgen:

Siwt arian, sgleiniog ac edrycha ... dyma’r helmed i fynd gyda’r siwt.

Merch:

Siwt arian ... sgleiniog ... a helmed?

Bachgen:

Dyna ni – siwt arian, sgleiniog a helmed.

Merch:

Ond pam?

Bachgen:

Dw i’n mynd i barti pen-blwydd.

Merch:

O?

Bachgen:

Parti pen-blwydd fy mrawd bach. Mae o’n ddeg heddiw.

Merch:

Ond pam y dillad?

Bachgen:

Thema’r parti ydy “Y Gofod”.

Merch:

O, dw i’n gweld.  Rwyt ti’n mynd i barti pen-blwydd ... a’r thema ydy “Y Gofod”. Cŵl!

Beth fyddwch chi’n ei wneud yno?

Bachgen:

Bwyta bwyd y gofod.

Merch:

Bwyd y gofod?

Bachgen:

Caws – llawer o gaws ...

Merch:

Ha! Ha!

Bachgen:

Pizzas gyda thomatos a madarch – coch fel y blaned Mawrth.

Merch:

Neis iawn.

Bachgen:

Pasteiod siâp y Lleuad.

Merch:

Diddorol!

Bachgen:

Brechdanau gwahanol – ar thema’r gofod.

Merch:

Gwahanol!

Bachgen:

Mae Mam wedi gwneud cacen fawr ddu gyda llun y planedau arni hi.

Merch:

Hyfryd!

Bachgen:

Ac mae Dad wedi gwneud punch arbennig o’r enw “sudd y planedau”.

Merch:

Fyddwch chi’n dawnsio?

Bachgen:

Byddwn.

Merch:

Fyddwch chi’n chwarae gemau?

Bachgen:

Dw i ddim yn meddwl. Wyt ti eisiau dod?

Merch:

Dim diolch.  Does gen i ddim byd i wisgo.

Bachgen:

Dim ots! Dere!