Rhifyn 17 - Y Gorffennol Pell

Dewr!

Dewr!

Dewr!

Yn y darn nesaf mae hanes pedwar caplan.

Beth ydy caplan?

Ficer neu weinidog (minister) mewn capel preifat neu ar long.

Dyma'r Dorchester - un o longau Gogledd America.

Darllenwch y dyddiadur yma gan ddyn ar y llong yn 1943.

03 Chwefror 1943

Roeddwn i ar yr SS Dorchester ac roedden ni’n teithio mewn confoi gyda dwy long arall. Roedden ni wedi gadael Efrog Newydd ar Ionawr 23, a nawr roedden ni’n teithio tuag at yr Ynys Las. Roedd tua 900 o bobl ar y llong.

Roedd y capten yn poeni achos roedd llongau tanfor yr Almaen o dan y môr.

Am bum munud i un y bore, saethodd llong danfor dorpedo at ein llong ni. Yn sydyn, doedd dim trydan. Roedd pobl yn gweiddi. Roedd rhai’n rhedeg. Roedd rhai’n cerdded. Roedd rhai o’r dynion mewn panig. Roedd y llong yn mynd i lawr!

Ond doedd y pedwar caplan – George L. Fox, Alexander D. Goode, John P. Washington a Clark V. Poling – ddim mewn panig. Doedden nhw ddim yn gweiddi. Helpon nhw’r dynion o’r llong i mewn i’r cychod achub. Roedden nhw’n ddewr iawn.

Doedd dim siaced achub i bawb. Rhoiodd y pedwar caplan eu siaced achub nhw i bedwar dyn arall. Dewr iawn!

Aeth y llong a’r pedwar caplan i lawr i wely’r môr. Roedden nhw wedi helpu pobl eraill. Roedden nhw wedi achub pobl eraill.

Yn 1948, roedd stamp yn America yn cofio am y dynion yma.

Mae cerddoriaeth yn cofio’r dynion hefyd, Light Eternal gan James Swearingen.

Mae pobl yn cofio am y pedwar caplan ar Chwefror 3 bob blwyddyn – dyma Dydd y Pedwar Caplan yn America.

Geirfa
   
dewr brave
llongau ships
llong ship
yr Ynys Las Greenland
gadael (to) leave
Efrog Newydd New York
llongau tanfor submarines
saethodd shot
trydan electricity
gweiddi (to) shout
caplan chaplain
cychod achub lifeboats
siaced achub lifejacket
achub (to) save