Rhifyn 17 - Y Gorffennol Pell

I gopa mynydd Kilimanjaro

I gopa mynydd Kilimanjaro

I gopa mynydd Kilimanjaro

Rydych chi'n mynd i wrando ar ddau berson yn siarad.

Yn gyntaf, dyma rai geiriau i'ch helpu chi, os ydych chi eisiau help.

Geirfa
   
achos da good cause
uchaf highest
paratoi (to) prepare
cadw'n heini (to) keep fit
ymarfer (to) exercise
felly therefore
cryf strong
copa summit
gorau best

Loading the player...
Sgript
   

Cyflwynydd:

 

Croeso i raglen arall o “Bobl bach!”.

Heddiw, yn y stiwdio, mae Ceri Pryce. Bore da, Ceri.

Ceri:

Bore da.

Cyflwynydd:

 

 

 

 

Pwy ydy Ceri Pryce?

Wel, mae hi wedi dringo mynydd Kilimanjaro, yn Affrica.

Pam?

I godi arian at achos da.

Croeso i’r stiwdio, Ceri.

Ceri:

Diolch yn fawr.

Cyflwynydd:

Pryd aethoch chi i fyny Kilimanjaro?

Ceri:

Ym mis Chwefror.

Cyflwynydd:

Pam Kilimanjaro?

Ceri:

Wel, dyma fynydd uchaf Affrica. Mae’r mynydd yn bum mil, wyth cant naw deg pump metr.

Cyflwynydd:

Wrth gwrs. … Sut oeddech chi wedi paratoi?

Ceri:

Roedden ni wedi bod yn cadw’n heini.

Cyflwynydd:

Cadw’n heini … sut?

Ceri:

Roedden ni wedi cerdded …

Cyflwynydd:

.. o, cerdded …

Ceri:

… ac roedden ni wedi beicio …

Cyflwynydd:

… beicio …

Ceri:

… ac roedden ni wedi bod yn ymarfer yn y ganolfan hamdden …

Cyflwynydd:

ymarfer yn y ganolfan hamdden. Roeddech chi’n heini iawn, felly.

Ceri:

Wrth gwrs.

Cyflwynydd:

Beth oeddech chi wedi pacio?

Ceri:

 

Roedden ni wedi pacio esgidiau cerdded da – esgidiau cerdded cryf iawn – a dillad cerdded – trowsus da, fflîs, sanau cerdded da. Roeddwn i wedi pacio camera hefyd.

Cyflwynydd:

Sut oedd y daith i gopa Kilimanjaro?

Ceri:

Anodd – ond gwych!

Cyflwynydd:

Gwych?

Ceri:

Roedd sefyll ar gopa Kilimanjaro yn anhygoel – y profiad gorau yn y byd. Ffantastig!

Cyflwynydd:

 

“Ffantastig!” Da iawn ... Ceri, beth am wrando ar ddarn o gerddoriaeth … ac yna, byddwn ni’n dod yn ôl i siarad gyda chi eto.

Ceri:

Iawn.