Rhifyn 17 - Y Gorffennol Pell

Pizzas

Pizzas

Pizzas

Rydych chi'n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.

Geirfa
   
bwyty restaurant
Eidalaidd Italian
cyntaf first
brenin king
brenhines queen
iddyn nhw for them
wrth ei bodd delighted
ar ben  on top of
cyn hyn before this
Gwlad Groeg Greece
Rhufain Rome
sbeisys spices
olew olewydd olive oil
dim ots never mind

Loading the player...

Gwyliwch a gwrandewch!

Sgript

 

 

Cyflwynydd:

Croeso i fwyty Eidalaidd Altalia.

Mae bwyd Eidalaidd blasus yma.

 

Ydych chi’n hoffi pizza?

Pa fath?

Beth ydych chi’n hoffi ar bizza?

Beth am …?

ham?

salami?

tomatos?

madarch?

winwns … neu … nionod?

tiwna?

pinafa?l

Mmm … - blasus iawn.

 

Ond o ble mae pizzas yn dod?

Mae rhai pobl yn dweud …: O Naples.

 

Pwy oedd y person cyntaf i wneud pizza?

Mae rhai pobl yn dweud …: Raffaele Esposito

 

Ond pwy oedd Raffaele Esposito?

 

Wel, roedd e’n byw yn Naples, yn yr Eidal.

Roedd e’n rhedeg bwyty o’r enw Pizzeria di Pietro.

Yn 1889, daeth y Brenin Umberto y Cyntaf a’r frenhines Margherita i Naples.

Coginiodd Esposito bizza arbennig iddyn nhw – pizza gyda thomatos, caws mozzarella a basil ar y top ... Roedd y pizza yn goch, gwyn a gwyrdd – lliwiau baner yr Eidal ... Roedd y frenhines wrth ei bodd gyda’r pizza a dyna ddechrau’r pizza Margherita – a pizzas eraill hefyd.

 

OND …

 

… mae rhai pobl yn dweud bod pobl Gwlad Groeg a Rhufain wedi bod yn bwyta bara fflat gyda sbeisys cyn hyn.

 

 

 

Dim ots ble dechreuodd y pizza, dw i’n gwybod un peth – mae’n flasus.

Mmm – blasus IAWN!