Rhifyn 17 - Y Gorffennol Pell

Rasio'r trên

postcard
Slide background

Dw i’n cael amser ffantastig yn Nhywyn, Gogledd-orllewin Cymru. Wythnos diwetha, rhedais i ras yn erbyn y trên. Roedd 500 o bobl yn rhedeg. Roedd rhai o Brydain ond roedd rhai wedi teithio o Seland Newydd, Awstralia, Hong Kong, Affrica ac America.

Roedd y ras yn 14 milltir – o’r orsaf yn Nhywyn i Abergynolwyn ac yn ôl. Roedd y ras yn gyffrous iawn achos roedd y cwrs yn anodd ac roedd pobl yn gweiddi, “Rhedwch!”, “Brysiwch”, “Daliwch ati!Curais i’r trên – rhedais i mewn 1 awr a 50 munud.

Dw i eisiau gwneud hyn y flwyddyn nesaf eto.

Wela i chi ddydd Sadwrn.

Cariad

Chris

Mrs C Jones

28 Ffordd y Mynydd

Dinbych

Sir Ddinbych

LL99 0TY

tren

Geirfa
   
diwetha last
yn erbyn against
anodd difficult
gweiddi (to) shout
Daliwch ati! Keep going!
curo (to) beat