Edrychwch ar y ffilm yma.
Dyma'r stori - stori wir!
Haf 2016 … dydd Gwener oedd hi, ac roedd hi’n boeth iawn.
Roedd Sadie a Peppi, dau gi bach, yn eistedd mewn car yn y maes parcio tu allan i siop Walmart yn Wayne, West Virginia, Gogledd America. Roedd Fatima Rowe, perchennog Sadie a Peppi, wedi mynd i mewn i’r siop i siopa.
Achos y tywydd poeth, doedd Fatima ddim wedi stopio injan y car – roedd hi eisiau i’r system awyru oeri’r cŵn.
Pan oedd hi yn y siop, dechreuodd y car symud i lawr y bryn at y siop. Troiodd Sadie yr olwyn lywio a gyrrodd hi’r car!
Stopiodd y car ar ôl taro i mewn i biler o flaen y siop. Rhedodd llawer o bobl at y car a gwelon nhw Peppi yn pwyso botwm i agor ffenest y car.
Daeth Fatima allan o’r siop a gweld y car. Cafodd hi sioc.
Yna, gyrrodd Sadie, Peppi a Fatima adre o’r siop. Pwy oedd yn gyrru tybed?
Geirfa
yn ystod | during |
perchennog | owner |
roedd ... wedi mynd ... | ... had gone ... |
doedd ... ddim wedi stopio | ... had not stopped |
system awyru | air conditioning |
olwyn lywio | steering wheel |
taro | (to) knock |
piler | pillar |
pwyso | (to) press |
tybed | I wonder |