Rhifyn 18 - Defnyddio Patrymau

Chwaraeon i bawb

Chwaraeon i bawb
16 Mawrth 2017

Annwyl ddarllenwyr,

Mae pawb yn gwybod bod gwneud chwaraeon yn dda i chi.

  • Maen nhw’n dda i’r corff.
  • Maen nhw’n dda i’r meddwl.
  • Maen nhw’n gwneud i chi deimlo’n hapus – llai o strés!
  • Mae chwarae mewn tîm yn dysgu sgiliau fel gweithio gyda’ch gilydd.

Rydyn ni eisiau dangos i bawb, “Mae chwaraeon yn bwysig. Dewch i wneud chwaraeon,” ond rydyn ni eisiau help. Rydyn ni eisiau syniadau da i helpu pobl – o bob oed – i fwynhau chwaraeon. Ysgrifennwch aton ni gyda’ch syniadau chi os gwelwch yn dda.

Yn gywir

M. Price

Rheolwr y ganolfan hamdden

Geirfa
   
darllenwyr readers
corff body
meddwl mind
gyda'ch gilydd together
dangos (to) show
pwysig important
o bob oed of all ages