Rhifyn 18 - Defnyddio Patrymau

Digidol neu analog?

Digidol neu analog?

Digidol neu analog?

Mae'r erthygl nesaf yn sôn am dechnoleg.

Cyn darllen, beth ydy'r geiriau yma yn Saesneg, tybed?

  • digidol
  • analog
  • nofel
  • tabled
  • ar-lein
  • record finyl
  • canol oed
Digidol neu analog?

Beth sy orau?

  • Darllen nofel ar dabled neu mewn llyfr papur?
  • Gwrando ar gerddoriaeth ar-lein, neu ar record finyl?
  • Tynnu llun efo camera digidol neu gamera Polaroid?
  • Ysgrifennu nodiadau ar y cyfrifiadur neu ar bapur?
  • Chwarae gemau cyfrifiadur neu gemau bwrdd fel Monopoly?
  • Cyfarfod ar-lein neu gyfarfod go iawn efo pobl?

Mae technoleg yn bwysig iawn heddiw, ond dydy pawb ddim yn hoffi pethau digidol.

  • Mae llawer o bobl yn mwynhau teimlo llyfr.
  • Maen nhw’n meddwl bod cerddoriaeth ar record finyl yn fwy emosiynol.
  • Mae rhai pobl yn mwynhau gweld y llun yn dod allan o’r camera Polaroid.
  • Mae rhai pobl yn gallu meddwl yn well pan maen nhw’n ysgrifennu ar bapur.
  • Pan maen nhw’n chwarae gemau bwrdd, mae rhai pobl yn hoffi chwarae efo pobl eraill achos maen nhw’n siarad ac yn mwynhau eu cwmni nhw.
  • Mae llawer o bobl yn hoffi siarad â phobl wyneb-yn-wyneb. Maen nhw’n hoffi trafod, cytuno ac anghytuno mewn cyfarfod go iawn.

Pwy sy’n teimlo fel hyn?

Hen bobl?

Pobl ganol oed?

Rhai, wrth gwrs, ond mae llawer o bobl ifanc yn teimlo fel hyn heddiw hefyd!

Geirfa
   
gorau best
tynnu llun (to) take a photograph
nodiadau notes
gemau bwrdd board games
cyfarfod meeting
go iawn real, proper
pwysig important
gwell better
cwmni company
wyneb-yn-wyneb face-to-face
fel hyn like this