Rhifyn 18 - Defnyddio Patrymau

Sŵs - da neu ddrwg?

Sŵs - da neu ddrwg?

Sŵs - da neu ddrwg?

Rydych chi'n mynd i wrando ar ddau berson yn siarad ond cyn gwrando, dyma ychydig o help i chi.

Geirfa
   
cael can, (to) be allowed to
pris price
lle place
creulon cruel
hela (to) hunt
rhydd free
caets cage
gofalu am (to) care for
prin rare

Loading the player...
Sgript
   
Jo: Edrycha ar y poster yma. "Bargen - dau am un yn y sŵ dydd Sadwrn."
Ceri: Pardwn?
Jo: "Bargen - dau am un yn y sŵ dydd Sadwrn."
Ceri: Dw i ddim yn deall.
Jo: Mae dau berson yn cael mynd i mewn i'r sŵ am bris un person dydd Sadwrn.
Ceri: O, dw i'n gweld ... Mae un person yn talu ac mae un person yn mynd i mewn am ddim.
Jo: Dyna ni. Beth am fynd, Ceri?
Ceri: I ble?
Jo: I'r sŵ.
Ceri: Dim diolch. Plant bach sy'n mynd i'r sŵ.
 Jo: Na - mae'n lle da i weld anifeiliaid gwahanol.
Ceri:  Dim diolch. Plant bach sy'n mynd i'r sŵ - nid pobl ifanc fel ni.
Jo:   Wel, dw i'n hoffi gweld jiraffod ... camelod ... eliffantod ... mwncïod ... teigrod ... llewod ... ac anifeiliaid eraill.
Ceri:  Ond mae'n greulon
Jo:  Creulon?!? 
Ceri:   Ydy, mae'n greulon iawn.
Jo:  Sut mae'r sŵ'n greulon
Ceri:  Mae cau anifeiliaid mewn sŵ yn greulon. Mae anifeiliaid eisiau bod yn y jyngl ... neu yn Affrica ... neu yn Awstralia. Maen nhw eisiau rhedeg ... a hela ... Maen nhw eisiau bod yn rhydd, ddim mewn caets
Jo:  Ond mae sŵs yn gwneud gwaith da.
Ceri:  Sut maen nhw'n gwneud gwaith da? 
Jo:  Maen nhw'n gofalu am anifeiliaid prin
Ceri:  Anifeiliaid prin
Jo:  Anifeiliaid fel y panda neu'r teigr - maen nhw'n brin iawn ond mae sŵs yn gofalu am yr anifeiliaid yma.
Ceri:  Ydyn, ond ... 
Jo:  Ac mae pobl - plant bach a phobl ifanc yn gallu mynd i weld yr anifeiliaid yma. 
Ceri: Ydyn, ond dw i ddim eisiau mynd i'r sŵ ddydd Sadwrn nesaf, diolch yn fawr. 
Jo:  O!