Helo ’na.
Matt Thomas ydw i a dw i’n byw yn Abertawe. Dw i’n 13 oed.
Dw i’n hoffi cicfocsio a chwarae pêl-fasged. Dw i’n cicfocsio ar nos Iau a dw i’n chwarae pêl-fasged ar ddydd Sadwrn.
Sut mae?
Josh Jones ydw i a dw i’n byw ar fferm ger Aberystwyth.
Dw i’n 14 oed a dw i’n hoffi reidio beic cwad.
Dw i’n reidio’r beic cwad ar y fferm ond dw i ddim yn reidio ar y ffordd.
Dw i’n gwisgo helmed achos mae beiciau cwad yn beryglus.
Dw i ddim yn cario ffrindiau ar y beic cwad – mae’n beryglus!
Sophie Smith ydw i a dw i’n 14 oed. Dw i’n byw yn Rhos, ger Wrecsam.
Dw i’n mynd i’r ysgol yn Wrecsam a dw i’n hoffi dysgu Cymraeg a Ffrangeg.
Ar ddydd Sadwrn, dw i’n dysgu sgiliau syrcas:
Dw i’n hoffi cerdded ar stilts a jyglo ond dw i ddim yn hoffi perfformio ar y trapîs. Dw i’n hoffi dysgu sgiliau clown hefyd ond dw i ddim yn dda iawn am ddweud jôcs.
Geirfa |
|
ger |
near |
dringo |
to climb, climbing |
canolfan |
centre |
ffordd |
road |
achos |
because |
yn beryglus |
dangerous |
dysgu |
to learn |
dweud | to tell |
skills
to perform