Dyma Maisie Potter.
Mae hi’n 17 oed ac mae hi’n eirafyrddio dros Brydain.
Beth ydych chi’n hoffi gwneud?
Dw i’n hoffi eirafyrddio.
Beth ydych chi’n wisgo i eirafyrddio?
Dw i’n gwisgo dau grys T (un thermal), legins thermal, sanau sgio, back protector (bob amser!), trowsus a siaced eirafryddio, menig (mittens), helmed a gogls (bob amser) a bŵts eirafryddio.
Beth ydych chi’n hoffi am eirafyrddio?
Llawer o bethau, e.e.
Beth dydych chi ddim yn hoffi am eirafyrddio?
Gwisgo’r dillad eirafyrddio (ha ha!).
Ble ydych chi’n ymarfer?
Yn Les Gets, Morzine ac Avoriaz, yn Alpau Ffrainc.
Sut ydych chi’n ymarfer?
Yn yr haf, dw I’n syrffio, sglefrio, beicio, dringo a gwneud gymnasteg.
Yn y tymor eirafyrddio, dw i’n mynd i’r mynyddoedd i ymarfer am dair neu bedair awr bob dydd ac yna dw i’n beicio am 30 munud ar y beic ymarfer.
Pob lwc i chi, Maisie.
Diolch yn fawr.
Geirfa | |
eirafyrddio |
snowboarding |
dechrau |
to begin, start |
bob amser |
always |
teithio |
to travel |
bod |
to be |
tu allan | outside |
ymarfer |
to practise, train |
yr haf |
summer |
sglefrio |
to skate |
tymor |
season |
awr | hour |
mynyddoedd | mountains |
thermal
gogls
sialens
syrffio