Beth am chwarae gêm gyda mop ... pêl ... a ... gôl?
Mae’n gyffrous iawn. Mae’n hwyl!
Pa gêm?
- Gêm i 2 dîm
- Mae 7 yn y tîm – bechgyn a merched.
- Mae’r gêm fel rygbi a dodgeball a tag a pêl-fasged.
- Rhaid cael cwaffl – pêl fach.
- Rhaid cael gôl (3 cylch).
- Rhaid cael snitch – pêl fach aur.
- Rhaid cael peli mawr – i daflu at y tîm arall.
- Rhaid cael mop (mae brwsh yn bosib hefyd).
- Pa ddillad? Mae rhai pobl yn gwisgo clogyn i chwarae’r gêm.
I chwarae:
- Rhaid rhedeg gyda’r mop neu’r brwsh rhwng y coesau.
- Rhaid rhedeg, taclo a sgorio goliau.
- Rhaid trio dal y snitch (pêl fach).
- Mae'r snitch yn sownd i ddillad y snitch runner. Mae’r snitch runner yn rhedeg yn gyflym iawn, iawn.
- Mae’r gêm yn gorffen ar ôl dal y snitch (30 pwynt).
Beth ydy’r gêm?
Quidditch, wrth gwrs – y gêm yn llyfrau Harri Potter.
Mae pobl yn Japan, Awstralia, De Affrica, Canada, Colombia, y Ffindir - ac ym Mhrydain - yn chwarae Quidditch heddiw.

Help
| Geirfa |
|
Pa?
|
What?
|
|
fel
|
like, similar to
|
|
rhaid cael
|
must have
|
|
cylch, cylchoedd
|
hoop,-s, circle,-s
|
|
taflu
|
to throw
|
| hefyd |
also, too |
|
clogyn
|
cloak
|
|
rhwng y coesau
|
between the legs
|
|
trio
|
to try
|
|
dal
|
to catch |
| (y) Ffindir |
Finland |