Pwy ydy’r bobl yma?
Darllenwch.
Mae hi’n actores ac mae hi’n dod o America. Mae hi’n actio mewn ffilmiau, er enghraifft, Birdman, The Amazing Spider-Man a The Amazing Spider-Man 2, Gangster Squad, The Help, Crazy, Stupid Love.
Mae hi’n actio ar y teledu hefyd. Mae hi’n actio’n dda iawn.
Bethany
Mae e’n actor. Mae e’n actio mewn ffilmiau, er enghraifft, yn ffilmiau’r Twilight Saga, Water for Elephants, Maps to the Stars, Queen of the Desert. Mae e’n actio Cedric Diggory yn y ffilm Harry Potter and the Goblet of Fire hefyd.
Mae e’n actio’n wych ac mae e’n canu’n dda iawn hefyd. Dw i’n hoffi’r actor yma’n fawr achos mae e’n dalentog iawn.
Sophie
Mae’n well gen i actor o Gymru. Mae o’n actio yn The Amazing Spider-Man, Nanny McPhee Returns, Christmas Carol: The Movie, Notting Hill, Twin Town. Mae o’n actio Xenophilius Lovegood yn Harry Potter and the Deathly Hallows: Part 1 ac mae o’n wych.
Mae’r actor yma’n canu hefyd. Mae o’n dalentog iawn – ac mae o’n siarad Cymraeg – Gwych!
Josh
Mae fy hoff seleb i’n rhedeg. Mae e’n rhedeg dros Brydain a Lloegr mewn marathonau ac mewn rasys pum mil (5,000) metr a deg mil (10,000) metr. Mae e’n rhedeg yn ardderchog – mae e’n Bencampwr Olympaidd ac yn Bencampwr y Byd. Mae e’n dod o Somalia ond mae e’n byw yn Llundain ers yn 8 oed. Mae e’n byw yn Oregon, America hefyd. Yn fy marn i, mae e’n athletwr gwych.
Gareth
Mae fy hoff seleb i’n rhedeg – ond mae hi’n beicio a nofio hefyd. Mae hi’n rhedeg yn ardderchog. Mae hi’n beicio’n ardderchog. Mae hi’n nofio’n ardderchog. Hi ydy Pencampwr Triathlon y Byd ac mae hi’n dod o Gymru – o Abertawe.
Yn fy marn i, mae hi’n dalentog iawn.
Lucy
Geirfa |
|
er enghraifft (e.e.) | for example (e.g.) |
hoffi’n fawr | to like very much |
mae’n well gen i / mae’n well gyda fi |
I prefer |
talentog | talented |
ras, rasys | race, races |
mil | thousand |
metr | metre |
pencampwr | champion |
byd | world |
ers | since |
yn fy marn i | in my opinion |
Abertawe | Swansea |
actress
marathons
athlete