Edrychwch ar y rasys yma. Beth sy’n digwydd?
Nawr, edrychwch ar y ras yma. Beth sy’n digwydd?
Mae pobl yn dod i redeg yn y ras ac maen nhw’n gwisgo crys T gwyn, siorts gwyn a sanau gwyn.
Mae pobl eraill yn sefyll ar hyd y cwrs. Maen nhw eisiau gwylio’r ras. Nhw ydy’r gwylwyr.
… mae’r rhedwyr yn sefyll mewn llinell – yn barod i redeg.
Yna, tri … dau … un … ac maen nhw’n rhedeg.
Mae’r rhedwyr yn rhedeg am 5 cilomedr.
Mae gwylwyr yn aros am y rhedwyr.
… mae’r gwylwyr yn taflu paent powdr melyn dros y rhedwyr.
… mae’r gwylwyr yn taflu paent powdr glas dros y rhedwyr.
… mae’r gwylwyr yn taflu paent powdr gwyrdd dros y rhedwyr.
… mae’r gwylwyr yn taflu paent powdr pinc dros y rhedwyr.
… mae’r gwylwyr yn taflu paent powdr pob lliw dros y rhedwyr.
Bobl bach! Lliwgar iawn!
Geirfa | |
lliwiau | colours |
digwydd | to happen |
ar hyd | along |
cwrs | course |
llinell | line |
gwylio | to watch |
gwylwyr | viewers |
aros am | to wait for |
taflu | to throw |
pob lliw | every colour |
lliwgar | colourful |
ras
rasys
rasio
paent powdr