Amgueddfa Llanaber
Dros y penwythnos … ond … pa flwyddyn?
Darllenwch am y bobl yma. Pryd oedd y bobl yma’n byw? Beth ydy’r flwyddyn?
Es i i’r siop ddillad i brynu trowsus newydd ond roedd problem – doedd dim trowsus newydd yn y siop!
Nos Sadwrn, eisteddais i yn yr ystafell fyw, yn gwrando ar y radio gyda’r teulu.
Dawnsiais i yn Neuadd y Dre nos Sadwrn. Roedd y gerddoriaeth yn wych. Noson dda!
Es i i siopa fore Sadwrn. Es i i’r siop fwyd i brynu jam; es i i’r siop fara i brynu bara (bara brown eto! Dw i ddim yn hoffi bara brown.) Yna, es i i’r siop ffrwythau i brynu ffrwythau – dim bananas, dim orennau – dim ond afalau. Prynais i ddau afal.
Yn y prynhawn, cerddais i ar lan y môr gyda Mildred – mae hi’n dod o Birmingham. Siaradon ni.
Es i i’r dref gyda fy ffrindiau. Aethon ni i’r ‘pictiwrs’ i weld cartwnau. Yna, aethon ni i dŷ John i wrando ar recordiau.
Pryd oedd y bobl yma’n byw? Dewiswch un flwyddyn.
tost
bara brown
orennau
cartwnau