Beth ydy dy enw di?
Joe Woolford ydw i.
Ble wyt ti’n byw?
Dw i’n byw yn Rhuthun, Gogledd Cymru.
I ba ysgol est ti?
Es i i Ysgol Pen Barras, Rhuthun – ysgol Gymraeg – ac i Ysgol Brynhyfryd.
Beth wyt ti’n wneud rŵan?
Dw i’n gweithio yn Ysgol Brynhyfryd – yn yr adran chwaraeon – a dw i’n canu.
Pa fath o gerddoriaeth wyt ti’n hoffi?
Dw i’n hoffi cerddoriaeth yr 80au a’r 90au.
Pryd dechreuaist ti ganu?
Dechreuais i rapio yn 13 oed.
Beth wyt ti’n hoffi gwneud?
Dw i’n hoffi gwrando ar gerddoriaeth – dw i wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth!
Dw i’n dysgu chwarae’r gitâr rŵan a dw i’n mwynhau’n fawr.
Beth wnest ti yn 2015?
Es i ar The Voice.
Ar ba dîm est ti?
Es i ar dîm Rita Ora.
Pam dewisaist ti Rita Ora?
Dewisais i Rita Ora achos mae hi’n ifanc ac yn dalentog a hefyd roeddwn i’n meddwl, “Bydd hi’n help mawr i mi.”
Beth ganaist ti ar The Voice?
Canais i “Lights” (Ellie Goulding ) yn y blind audition, yna, yn y rownd nesaf, canais i “I wont give up” (Jason Mraz). Yna, yn y rownd nesaf, canais i “Hey Ya” (Outkast) ac yna “Don’t wake me up” (Chris Brown). Yn y semi ffeinal, canais i “Jealous” (Labrinth).
Beth wnest ti rhwng pob rhaglen?
Ymarfer! Roedd rhaid ymarfer llawer ond weithiau es i allan gyda’r cystadleuwyr eraill. Aethon ni allan am fwyd ac aethon ni i siopa ac roedd o’n wych. Roedd pobl yn dod i siarad â ni ac roedden nhw’n gofyn, “Ydych chi ar The Voice? Roedd o’n ddoniol – ond roedd o’n neis hefyd.
Est ti i weld Rita Ora yn perfformio?
Do, es i weld hi a Charli XCX yn perfformio yn yr 02 Empire yn Sheppard's Bush. Roedd y gig yn anhygoel. Roedd Rita a Charli XCX yn wych a dysgais i lawer.
Berfformiaist ti gyda Rita Ora?
Do, roedd o’n anhygoel!
Beth fwynheuaist ti am y profiad o ganu ar The Voice?
Popeth!
Beth wyt ti’n feddwl o’r profiad?
Roedd o’n wych ond roedd rhaid i mi weithio’n galed i gyrraedd The Voice. Gweithiais i’n galed am flynyddoedd. Pan oedd pobl yn dweud, “Na!” roeddwn i’n trio eto. Os ydych chi’n gweithio’n galed byddwch chi’n cael beth rydych chi eisiau.
Beth wyt ti eisiau gwneud yn y dyfodol?
Dw i eisiau gweithio ym myd cerddoriaeth. Hoffwn i deithio’r byd; hoffwn i berfformio; hoffwn i ysgrifennu caneuon. Dw i’n mynd i weithio’n galed eto i drio gwneud hyn.
Pob lwc i ti, Joe.
Diolch yn fawr iawn
Geirfa | |
adran |
department |
dewisaist ti |
did you choose |
ifanc |
young |
wnest ti |
did you |
ymarfer |
to rehearse |
cystadleuwyr |
competitors |
anhygoel |
awesome |
profiad |
experience |
popeth |
everything |
caled |
hard |
blynyddoedd | years |
os | if |
byddwch chi |
you will |
ym myd |
in the world of |
caneuon |
songs |