Rydyn ni yma!
Gadawais i Lerpwl ar 28 Mai ar long o’r enw Mimosa. Roeddwn i’n teimlo’n hapus iawn achos roeddwn i’n teithio i Batagonia, De America. Cyffrous iawn!
Roedd y daith yn anodd achos roedd y tywydd yn ddrwg. Roedd hi’n wyntog ac yn stormus iawn ac roeddwn i’n sâl. Roeddwn i’n teimlo’n nerfus ac yn ofnus weithiau.
Roedd tua cant pum deg (150) o bobl o Gymru ar y llong. Maen nhw’n bobl hyfryd a mwynheuais i siarad gyda nhw.
Teithion ni am ddau fis ac yna, un diwrnod, gwelais i Batagonia. “Dewch – Dyma Batagonia,” gweiddais i a rhedodd pawb i weld.
Ar 28 Gorffennaf, felly, cerddais i o’r llong. Roeddwn i’n teimlo’n hapus iawn. Roeddwn i wrth fy modd ond roeddwn i wedi blino ac roeddwn i eisiau bwyd.
Ond wedyn, roedd problemau. Dim llawer o fwyd! Dim llawer o ddŵr! Dim cartrefi i ni! Es i i fyw mewn ogof – ac roedd hi’n stormus iawn eto.
Yfory, rydyn ni’n mynd i deithio achos rydyn ni eisiau cael lle arall i fyw.
Nos da.
Roeddwn i … Roedd … Roedd hi … Roedden ni … |
I was … … was … / There was … It was … We were … |
Geirfa | |
gadawais i |
I left |
Lerpwl |
Liverpool |
llong |
ship |
anodd |
difficult |
weithiau |
sometimes |
tua | about |
mis |
month |
gweiddi |
to shout |
wedyn |
then |
ogof |
cave |
lle | place |
arall | another |